S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Isuzu yn rhoi cefnogaeth i ddarllediadau byw gemau rygbi Cymru ar S4C

08 Tachwedd 2017

Bydd prif noddwyr tîm rygbi Cymru, Isuzu hefyd yn noddi darllediadau byw o Gemau’r Hydref ar S4C eleni.

Yn dilyn cyhoeddiad mai'r cwmni moduron pick-up yw noddwyr crysau newydd y tîm cenedlaethol, mae Isuzu hefyd wedi cadarnhau eu bod nhw'n noddi darllediad S4C o'r bedair gêm Cyfres Under Armour yn fyw ar raglen Clwb Rygbi Rhyngwladol.

Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Principality ar ddydd Sadwrn, 11 Tachwedd a bydd y chwaraewyr yn gwisgo eu crysau newydd gyda logo Isuzu am y tro gyntaf. Bydd darllediad Clwb Rygbi Rhyngwladol ar gyfer y gêm yn cychwyn am 16.45.

Ar ddydd Sadwrn 18 Tachwedd, bydd Cymru’n croesawu Georgia i’r brifddinas, cyn bydd pencampwyr y byd Seland Newydd yn ymweld yr wythnos ganlynol, ar ddydd Sadwrn 25 Tachwedd.

Her olaf y gyfres i Gymru fydd gêm yn erbyn De Affrica, gyda’r ddau dîm yn mynd benben â’i gilydd ar ddydd Sadwrn, 2 Rhagfyr.

Dywedodd George Wallis, Rheolwr Cyfathrebu Marchnata Isuzu: "Mae rygbi yn rhan annatod o hunaniaeth y genedl ac rydym yn falch iawn o fod yn bartneriaid i Undeb Rygbi Cymru. Maen nhw’n rhannu ein gwerthoedd: gwydnwch, gallu, ymrwymiad ac o fod yn ddibynadwy.

"Roedd noddi darllediadau gwych S4C o’r gemau yn estyniad naturiol o’n cefnogaeth tuag at rygbi Cymru."

Ar ran S4C fe ddwedodd David Bryant, Pennaeth Datblygu Masnachol; "Mae S4C ac Isuzu yn gefnogwyr brwd o rygbi yng Nghymru ac rydym yn falch iawn o groesawu Isuzu fel noddwr ein darllediadau o Gemau’r Hydref eleni."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?