S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiad Gwobrau Broadcast i Gantata Memoria

23 Tachwedd 2017

Mae rhaglen S4C o berfformiad cyntaf gwaith corawl Syr Karl Jenkins a Dr Mererid Hopwood, Cantata Memoria: Er Mwyn y Plant wedi ei chynnwys ar restr fer gwobrau anrhydeddus Broadcast.

Mae'r rhaglen Aberfan: Cantata Memoria a ddarlledwyd ar S4C ar 9 Hydref 2016 wedi ei henwebu am wobr yn y Categori Rhaglen Gerddoriaeth orau. Roedd y cynhyrchiad gan Rondo Media a'r perfformiad cyntaf o'r gwaith ar lwyfan Canolfan y Mileniwm Cymru, yn cofnodi hanner can mlynedd ers y trychineb yng nghymuned lofaol Aberfan, a lladdwyd 116 o blant a 28 o oedolion.

Nod S4C, fel comisiynwyr y gwaith corawl, oedd creu darn o waith a fyddai'n deyrnged barhaol i gryfder ac urddas y gymuned honno.

"Mae bod ymhlith rhestr fer gwobrau Broadcast yn anrhydedd arbennig ac rwy'n falch iawn fod y cynhyrchiad pwysig a chwbl unigryw hwn wedi ei gynnwys ymhlith yr enwebiadau," meddai Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, Amanda Rees, a enwebwyd am wobr Broadcast am ei ffilm ddogfen Channel 4, Finding Mum and Dad yn y flwyddyn 2014.

"Llongyfarchiadau gwresog i Syr Karl Jenkins a Dr Mererid Hopwood am y campwaith a fydd yn aros yn deyrnged i gymuned Aberfan, ac i dîm cynhyrchu Rondo Media am ddod â digwyddiad mor arwyddocaol i sgriniau S4C.

"Roedd hwn yn syniad oedd yn agos at galon y cyn Brif Weithredwr, Ian Jones oedd yn gefnogwr brwd o'r cychwyn, ac roedd yn ystyried y gwaith yma fel un o uchafbwyntiau'r cyfnod y bu gyda'r sianel."

Mae rhestr fer gwobrau Broadcast yn dethol y gorau yn unig o blith cynyrchiadau darlledu, gyda phrif ddarlledwyr a llwyfannau ar-lein fel Netflix yn ymrafael am y gwobrau.

Wedi ei henwebu yn y categori Cerddoriaeth hefyd mae The BRIT Awards (BRITs TV/ITV), Four To The Floor (Lemonade Money/Channel 4), Glastonbury 2017 (BBC Music TV/BBC Two), Harry Styles – Behind the Alum (Fulwell 73/Apple TV), The Rolling Stones – Ole Ole Ole – A Trip Across South America (Eagle Rock Entertainment/Channel 4).

Bydd y noson wobrwyo yn cael ei chynnal yn Llundain ar 7 Chwefror 2018.

Diwedd

Nodiadau:

Fe gyflwynwyd Syr Karl Jenkins a’r Prifardd Mererid Hopwood gyda Gwobr Arbennig y Prif Weinidog yn seremoni Gwobrau Dewi Sant ym mis Mawrth 2017.

Comisiynwyd Cantata Memoria: Er mwyn y plant gan S4C er mwyn cofnodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan.

Roedd y perfformiad cyhoeddus cyntaf yn rhan o gyngerdd goffa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Sadwrn 8 Hydref, 2016.

Yn perfformio roedd y bas bariton Bryn Terfel, y soprano Elin Manahan Thomas, y delynores Catrin Finch, yr unawdydd ewffoniwm David Childs a'r feiolynydd Joo Yeon Sir gyda Sinfonia Cymru. Hefyd Côr Heol y March, Côr y Cwm, Côr Ysgol Gerdd Ceredigion, Côr Caerdydd, Côr CF1 a Cywair.

Fe ddarlledwyd y perfformiad ar S4C ar 9 Hydref; yn gynhyrchiad gan Rondo Media.

Cafodd y gwaith ei ryddhau gan Deutsche Grammophon gan gyrraedd brig y siartiau cerddoriaeth glasurol (Official Classical Artist Albums Chart).

Cafodd Cantata Memoria ei pherfformio yn Neuadd Carnegie Hall ar 15 Ionawr 2017.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?