S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cytundeb Partneriaeth ffurfiol newydd rhwng S4C a’r BBC

13 Tachwedd 2017

  Mae Awdurdod S4C a Bwrdd Unedol y BBC heddiw’n cyhoeddi’r cytundeb newydd fydd yn cymryd lle’r Cytundeb Gweithredu a fu’n sail i’r berthynas rhwng Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC rhwng 2013 a diwedd Mawrth 2017.

Yn y Cytundeb Partneriaeth, Ariannu ac Atebolrwydd newydd yma, mae’r ddau ddarlledwr yn ymrwymo i weithio gyda'i gilydd yn greadigol er budd gwylwyr a’r gynulleidfa Gymraeg.

Mae ymrwymiad y BBC i ddatblygu a sefydlu partneriaethau adeiladol a theg yn un o hanfodion y Siarter newydd. Mae’r ymrwymiad i ddarparu cyllid i S4C yn rhan o’r Cytundeb Fframwaith a gyhoeddwyd yr un pryd. Gwelir y cytundeb hwn felly fel un o bartneriaethau craidd y BBC, yn unol â gofynion y Siarter.

Mae’r Cytundeb Partneriaeth yma yn seiliedig ar, ac yn diffinio, tair elfen sylfaenol:

(a) Y cyllid y bydd S4C yn ei dderbyn o ffi’r drwydded deledu, a natur yr atebolrwydd ariannol amdano i’r BBC;

(b) Y cyfraniad rhaglenni statudol gan y BBC o 10 awr yr wythnos o raglenni i S4C; a

(c) Natur y bartneriaeth ymarferol ehangach a fydd yn cynnwys y ddarpariaeth o wasanaethau technegol gan y BBC i S4C.

Bydd y Cytundeb Partneriaeth yn dal mewn grym hyd ddiwedd cyfnod Siarter newydd y BBC, sef hyd at 2028.

Mae cytundeb eisoes y bydd cyllid S4C o’r ffi drwydded yn parhau yn sefydlog tan 2022, pan fydd lefel y drwydded deledu’n cael ei adolygu.

Bydd gwerth y cyfraniad rhaglenni statudol yn cael ei gynnal ar y lefel bresennol, sef £19.4m y flwyddyn, hyd at yr un dyddiad.

Mae’r Cytundeb hefyd yn gwarantu parhad y trefniant i gynnal lle S4C ar yr iPlayer tan 2028.

Mae telerau’r cytundeb i ddarparu gwasanaethau technegol i S4C yng nghanolfan newydd y BBC yng nghanol Caerdydd o 2019 ymlaen yn awr wedi cael eu cytuno.

Mae’r Cytundeb Partneriaeth hwn yn rhoi manylion ynglŷn â sut y disgwylir i’r berthynas rhwng y ddau gorff gael ei gweithredu er mwyn sicrhau partneriaeth adeiladol, yng Nghymru ac ar y lefel y Deyrnas Gyfunol, a pha brosesau arolygu fydd yn cael eu darparu.

Dywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones:

“Mae’r cytundeb newydd yma’n dangos yn glir beth fydd natur y berthynas rhwng S4C a’r BBC dros gyfnod y Siarter newydd. Mae’n rhoi elfen gref o sicrwydd a sefydlogrwydd i S4C dros y cyfnod hwn, wrth ganiatáu cyfle i adolygu’r elfennau craidd ar ôl 5 mlynedd, ac mae’n gosod her i’r ddau sefydliad adnabod cyfleoedd i gydweithio’n adeiladol er budd y gwylwyr. Mae’n adeiladu ar lwyddiant y Cytundeb Gweithredu diwethaf ac ar draddodiad hir o gydweithio a chyd-wasanaethu cynulleidfaoedd. Mae unwaith eto yn cadarnhau annibyniaeth S4C fel corff ac fel gwasanaeth.

Rwy’n falch dros ben fod y BBC wedi gweld yn dda i adnabod ei pherthynas gydag S4C fel un o’i phartneriaethau craidd o dan y Siarter.

Dywedodd Sir David Clementi, Cadeirydd y BBC:

“Mae’r cytundeb newydd hwn yn cryfhau’r bartneriaeth gwasanaeth darlledu cyhoeddus hirdymor sy’n bodoli eisoes rhwng y BBC ac S4C. Mae’n cydnabod rôl hanfodol y ddau sefydliad o ran darlledu Cymraeg - ac mae’n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer cydweithio parhaus ar adeg pan fo newidiadau sylweddol ar droed yn y cyfryngau. Mae hwn yn gyfnod cyffrous ar gyfer darlledu yng Nghymru, ac rydw i’n hyderus y bydd parhau i weithio’n agos gydag S4C yn arwain at ganlyniadau creadigol, gan ddatblygu llawer o’r llwyddiannau a gyflawnwyd ar y cyd yn y blynyddoedd diwethaf.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

Yn dilyn y newid o Ymddiriedolaeth i Fwrdd Unedol, nid oes gan y BBC gynrychiolydd bellach ar Fwrdd Awdurdod S4C. Bydd cyfnod Elan Closs Stephens fel aelod unigol o Fwrdd Awdurdod S4C yn dod i ben 31 Hydref 2018.

Mae Cytundeb Partneriaeth, Ariannu ac Atebolrwydd rhwng y BBC ac S4C ar gael yma

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?