S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiad gwobrau Undeb yr Ysgrifenwyr i Bang

05 Rhagfyr 2017

Mae drama trosedd dwyieithog cyntaf S4C, Bang, wedi ei chynnwys ar restr fer gwobrau anrhydeddus Undeb yr Ysgrifenwyr (Writers’ Guild), sydd wedi bod yn dathlu awduron ac ysgrifennu ers i’r gwobrau gael eu lansio ym 1961.

Mae'r gyfres, a gafodd ei darlledu ar S4C yn yr hydref ac sydd ar gael i’w gwylio yn rhad ac am ddim ar wasanaeth ar alw S4C, s4c.cymru, ac ar BBC iPlayer tan 7 Ionawr, wedi cael ei henwebu am wobr yng nghategori Drama Deledu Ffurf Hir.

Cynhyrchir y ddrama gan gwmni cynhyrchu Joio ac Artists Studio ar gyfer S4C ac mae hi wedi cael ei hysgrifennu gan yr awdur Roger Williams oedd hefyd yn gyfrifol am greu’r gyfres ddrama Gwaith Cartref. Wedi'i gosod yn nhref dur Port Talbot, mae'n dilyn stori am ŵr ifanc diymhongar a thawel, Sam, sy’n gweld ei fywyd yn newid yn llwyr pan mae’n cael gafael ar wn ac yn dechrau torri’r gyfraith. Mae ei chwaer, Gina, yn blismones uchelgeisiol ac yn benderfynol o ddod o hyd i berchennog yr arf.

Mae’r gyfres wyth rhan wedi ei lleoli a'i gwreiddio'n ddwfn yng nghymuned Port Talbot a Chwm Afan ac fe’i cyfarwyddwyd gan Philip John (The Halcyon, Outlander, Downton Abbey) ac Ashley Way (Ice, Ripper Street, Stella, Y Streic a Fi) a’i chynhyrchu gan Catrin Lewis Defis (The Collection, Broadchurch).

Meddai Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, Amanda Rees: “Llongyfarchiadau mawr iawn i Roger Williams sy’n un o’n hawduron sgrin gorau ni ac yn llwyr haeddiannol o’i le ar y rhestr fer. Mae’r ffaith bod cynnwys S4C yn gallu sefyll ochr yn ochr â rhai o gyfresi drama mwyaf poblogaidd y rhwydweithiau cenedlaethol yn rhywbeth y gallwn ni fod yn hynod falch ohono.

“Er ei bod hi’n amlwg i ni fod ‘na dalent yma yng Nghymru all gystadlu ar lwyfan cenedlaethol, mae cael cydnabyddiaeth o hynny gan awduron sydd wedi dewis yr enwebiadau yn eu maes eu hunain yn rhywbeth arbennig iawn.”

Wedi ei henwebu yn y categori Drama Deledu Ffurf Hir hefyd, mae: Line of Duty, Cyfres 4 (Jed Mercurio) a Taboo (Chips Hardy, Steven Knight, Ben Hervey ac Emily Ballou).

Bydd y noson wobrwyo yn cael ei chynnal yn Llundain ar 15 Ionawr 2018.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?