S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Teyrnged S4C: Meic Povey

05 Rhagfyr 2017

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C,

"Roedd yn flin iawn gen i glywed am farwolaeth Meic Povey, awdur o ddawn ryfeddol wnaeth gyfrannu’n fawr i’r byd ffilm a theledu a theatr yng Nghymru a thu hwnt.

"Does dim amheuaeth ei fod ymhlith prif ddramodwyr Cymru yn ystod y degawdau diwethaf, gyda’r gallu i ysgrifennu adloniant poblogaidd a hefyd deunydd heriol, yn delio gyda phynciau trafod perthnasol i bobl Cymru a gyda themâu oesol am gyflwr y ddynol ryw.

"Does dim ond rhaid edrych ar ei gynnyrch teledu, o ddyddiau cynnar Pobol y Cwm i’w gyfres ddrama ddiweddaraf Byw Celwydd i ddeall cymaint fydd ei golled – roedd ganddo fe gymaint eto i’w gynnig. Wrth ryfeddu at ei ddawn i greu cymeriadau cofiadwy a gafaelgar, rhaid nodi cyfresi fel Talcen Caled a Teulu, ffilmiau fel Ryan a Ronnie, Reit tu ôl i ti, Nel a Sul y Blodau heb sôn am ei swmp anferth o waith fel dramodydd llwyfan ac fel actor teledu a llwyfan yn y Gymraeg a’r Saesneg.

"Gan fod ei wreiddiau’n ddwfn yn Eryri a’i fod hefyd wedi byw yng Nghaerdydd ers y 1970au, roedd ganddo allu i leisio profiadau pobl o bob rhan o’n gwlad. Wrth gydymdeimlo â’i deulu a’i ffrindiau agos, nid gormodiaeth yw dweud ein bod wedi colli cawr creadigol."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?