S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Fe ddaeth yr awr: Symud amseroedd operau sebon Mawrth a Iau i ryddhau slot awr newydd

19 Rhagfyr 2017

Mae S4C wedi datgelu amserlen newydd ar gyfer oriau brig nosweithiau Mawrth a Iau y sianel, gan ddechrau yn ystod wythnos gyntaf 2018.

Bydd yr opera sebon Rownd a Rownd, sy’n cael ei ddarlledu ddwywaith yr wythnos, yn symud i slot awr yn gynharach am 6.30, ac mae'r opera sebon boblogaidd Pobol y Cwm yn symud hanner awr yn gynharach i 7.30 ar y ddwy noson hynny i ryddhau slot am raglenni awr o hyd rhwng 8.00 a 9.00.

Mae'r newidiadau yn rhan o raglen gyffrous o raglenni newydd i gyfareddu’r gwylwyr yn y Flwyddyn Newydd a fydd yn cynnwys rhaglenni awr o hyd sy'n dechrau gyda chyfres deledu realiti poblogaidd a chyfres ddogfen o bwys a fydd ymlaen am 8.00 bob nos Fawrth a Iau.

Dywed Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, y bydd y newidiadau yn rhoi mwy o ddewis i wylwyr yn ystod oriau gwylio brig S4C o'r Flwyddyn Newydd ymlaen.

Dywedodd Amanda Rees, "Mae angen i amserlen rhaglenni’r sianel newid o dro i dro er mwyn ateb anghenion y gwylwyr. Mae cynulleidfa deuluol ar gael i wylio am 8.00 nad ydym yn eu cyrraedd i’r eithaf ar hyn bryd. Teimlwn fod yr amserlen newydd hon ar gyfer nosweithiau Mawrth a Iau yn gyfle i ddal y gynulleidfa deuluol honno yn ogystal â darparu mwy o amrywiaeth i wylwyr eraill, a’r Flwyddyn Newydd yw’r amser cywir i'w lansio.

"Credwn y bydd symud Rownd a Rownd i 6.30 ddwywaith yr wythnos yn gweithio'n well ar gyfer ein gwylwyr, yn enwedig y demograffig iau y mae'r rhaglen yn eu targedu ond sydd ar hyn o bryd yn gwylio ar-lein yn bennaf.

"Mae symud Pobol y Cwm hanner awr yn gynharach yn golygu y gallwn gario ei gynulleidfa fawr drosodd i’r slot awr newydd a fydd yn dechrau gyda chyfres newydd o’r gyfres teledu realiti, Priodas Pum Mil, a chyfres newydd y naturiaethwr Iolo Williams a ffilmiwyd yn ysblander y Great Barrier Reef. Ar y cyfan, mae'r symudiad yn dod â mwy o liw i oriau brig S4C."

Ychwanegodd Amanda Rees, "Mae'n rhaid i mi ddiolch i'r cwmnïau cynhyrchu Rondo Media a BBC Cymru am eu cydweithrediad parod wrth newid yr amserlen. Rhaid i mi bwysleisio hefyd fod y newidiadau yn cyd-fynd â'n pwyslais parhaus ar yrru gwylwyr i'n gwasanaethau ar-alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill.

"Wrth ddod â rhifyn omnibws poblogaidd dydd Sul o Pobol y Cwm yn ôl yn ystod y 12 mis diwethaf ac wrth dynnu sylw at omnibws nos Sul o Rownd a Rownd, rydym ni'n denu cynulleidfaoedd newydd o bob cwr o'r DU i wylio S4C ar y teledu ac ar-lein ym mhob cwr o'r DU."

Dywedodd Llŷr Morus ,cynhyrchydd y gyfres Pobol y Cwm bod y newid yn yr amseroedd yn digwydd ar adeg pan oedd straeon arbennig o gryf gan gymeriadau amlwg fel Garry a Dani Monk, Dr Elgan a Mark Jones a’i deulu.

Meddai Llŷr Morus, “Mae tîm Pobol y Cwm yn falch iawn bod y gyfres yn gonglfaen yn amserlen S4C a byddwn yn cychwyn 2018 gyda theitlau newydd a llu o straeon gafaelgar ar gyfer ein gwylwyr, hen a newydd.”

Dywedodd Bedwyr Rees, Uwch-gynhyrchydd Rownd a Rownd o gwmni Rondo Media bod y tîm yn hyderus y bydd yr amser newydd yn gyfle i ddenu gwylwyr newydd ar ben y gynulleidfa bresennol ar adeg pan mae straeon gafaelgar yn wynebu cymeriadau amlwg fel y blismones feichiog Siân a’i chariad John; Cathryn ar ôl gwahanu o Vince a'r tensiwn rhwng Carys a’i phartner Barry.

Meddai Bedwyr Rees, “Mae gan Rownd a Rownd ystod eang o wylwyr a'n gobaith ni ydy y bydd y slot newydd yn apelio at deuluoedd gan olygu y gall pobl o bob oed ymgynnull o amgylch y teledu i'w mwynhau efo'i gilydd. Ar yr un pryd rydym yn ffyddiog y bydd ein cynulleidfa ffyddlon yn ein dilyn i'r slot newydd. Rydym wastad yn chwilio am straeon apelgar, sy'n cydio yn y dychymyg ac yn cynnig rhywbeth i bawb.”

Amserlen S4C Dydd Mawrth a Dydd Iau, o 2 Ionawr 2018:

6.30 Rownd a Rownd

7.00 Heno

7.30 Pobol y Cwm

8.00 Rhaglen awr o hyd; gan ddechrau gyda Priodas Pum Mil ar y nos Fawrth a Iolo: Deifio yn y Barrier Reef ar nos Iau

9.00 Newyddion 9

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?