S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ymgyrch Nadolig S4C yn "ennill yr ŵyl"

22 Rhagfyr 2017

  Mae gwefan sy’n trin a thrafod gwaith brandio sianeli teledu wedi canmol ymgyrch Nadolig S4C.

Yn ôl nifer o gyfranwyr i’r fforwm drafod “TV Forum”, mae ymgyrch Nadolig y sianel eleni ymysg y gorau maen nhw wedi ei weld ers blynyddoedd. Roedd canmoliaeth arbennig gan fod y cyfranwyr yn deall fod S4C yn gorfod cystadlu a sianeli eraill ond efo cyllidebau llawer llai.

Fe dalodd Owain Morgan-Jones, Arweinydd Delwedd a Brand S4C deyrnged i gwmni animeiddio Roughcollie wnaeth y gwaith ar gyfer y sianel:

“Mae’r gwaith mae’r tîm yn Roughcollie wedi ei wneud wrth becynnu Nadolig S4C eleni o’r safon uchaf. Mae’r gwaith yn annwyl, yn hwyl ac wrth reswm yn Nadoligaidd.

“Rwy’n hynod o falch bod gwaith S4C a Roughcollie yn cael ei werthfawrogi gan gyfranwyr y wefan yma ac yn cymharu delweddau cyflwyno o bob math o sianeli ar draws y byd.

“Ry' ni'n mawr obeithio fod y gwylwyr hefyd yn hoffi'r cymeriadau bach prysur sy'n cyd-fynd â rhaglenni S4C dros yr ŵyl.”

Mae’r delweddau i’w gweld ar S4C tan 31 Rhagfyr.

Diwedd

Nodiadau:

Gwyliwch hysbyseb rhaglenni Nadolig S4C, sy'n cynnwys yr animeiddio poblogaidd ar y diwedd

Darllenwch y drafodaeth ar wefan TV Forum

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?