S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cronfa Ryngwladol Geltaidd

07 Awst 2018

Mae S4C, BBC ALBA (gyda chyllid gan MG ALBA), TG4 a Chronfa Darlledu Iaith Sgrin Gogledd Iwerddon (ILBF) yn falch o gyhoeddi lansiad 'Cronfa Ryngwladol Geltaidd' a fydd yn cynnal rownd gyd-gomisiynu flynyddol rhwng darlledwyr ieithoedd Celtaidd ac arianwyr yn yr Alban, Cymru, Iwerddon a Gogledd Iwerddon

Nod y 'Gronfa Ryngwladol Geltaidd' yw hyrwyddo cyd-ddatblygu ac yna cyd-gynhyrchu trwy ieithoedd Gaeleg yr Alban, Cymraeg a Gwyddelig, ac i annog rhyngwladoli ehangach yn Ewrop ac yn fyd-eang o gynyrchiadau a wneir yn wreiddiol yn yr ieithoedd Celtaidd hynny. Mae'r Gronfa Ryngwladol Geltaidd yn gobeithio rhoi cyfle i wneuthurwyr ffilm gyd-ddatblygu a chyflwyno gwaith nodedig, uchelgeisiol i gyfoethogi amserlenni oriau brig, cael dylanwad cenedlaethol ymysg cynulleidfaoedd yn yr Alban, Cymru, Iwerddon a Gogledd Iwerddon a cheisio cyrraedd cynulleidfaoedd ledled y byd.

Mae'r gwahoddiad cyntaf hwn i geisio yn cwmpasu tri genre - Ffeithiol, Drama ac Animeiddio. Ar gyfer pob prosiect rydym yn rhagweld cam datblygu lle byddai cyllid yn cael ei ddarparu i ddatblygu syniadau ond hefyd i ddatblygu'r fframwaith cyd-gynhyrchu fydd yn gorfod cael elfen gynhyrchu yn yr Alban, Cymru a naill ai Iwerddon neu Ogledd Iwerddon. Mae croeso i gynhyrchwyr roi adborth ynglŷn â genres a ddylai eu cynnwys mewn gwahoddiadau ymgeisio Cronfa Ryngwladol Geltaidd yn y dyfodol.

Bydd y Gronfa Ryngwladol Geltaidd yn cael ei weinyddu gan dîm comisiynu ar y cyd o blith y darlledwyr a’r arianwyr Celtaidd sy'n bartneriaid yn y cynllun hwn. Rhaid cyflwyno cynigion yn electronig gan ddefnyddio un ddogfen pdf ar gyfer syniadau ac elfennau gweledol ac yn ddogfen excel ar gyfer cyllidebau. Rhaid i'r cwmni 'arweiniol' mewn prosiect cyd-ddatblygu gofrestru â phorth e-gomisiynu TG4 http://update.tg4.ie/ecomm/login.php yn gyntaf a llwytho eu cyflwyniadau erbyn y dyddiad cau perthnasol i'r adran berthnasol, 'Celtic Factual 2018', 'Celtic Drama 2018' neu 'Celtic Animation 2018'. Bydd penderfyniadau cychwynnol ar geisiadau yn cael eu cyfleu i'r cwmni sy'n cyflwyno o fewn dau fis i'r dyddiad cyflwyno perthnasol.

Ail-delir arian datblygu os bydd y cais yn mynd ymlaen i gyfnod cynhyrchu, gyda’r taliad yn ddyledus ar ddechrau'r cynhyrchiad. Bydd Eiddo Deallusol yn berchen i'r cwmnïau cynhyrchu sy'n cyd-ddatblygu’r syniad mewn modd cyd-rannu i'w gytuno rhyngddynt eu hunain.

CEISIADAU I'R GRONFA RYNGWLADOL GELTAIDD 2018

Datblygiad Ffeithiol. Rydym yn croesawu ceisiadau gyda'r nod o greu argraff boblogaidd a/neu feirniadol ymysg cynulleidfaoedd yn yr Alban, Cymru, Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Mae croeso arbennig i syniadau y gellid eu cyd-gynhyrchu â darlledwyr Ewropeaidd neu ledled y byd. Prosiectau derbyniol: 1) Dogfennau ffeithiol creadigol unigol (tua 75 munud o hyd) 2) Cyfres ffeithiol greadigol (rhwng 3 a 6 o raglenni awr o hyd). Y cyllid datblygu sydd ar gael: hyd at €18,000 neu £16,000. Pwy all wneud cais: cwmnïau cynhyrchu sydd ag arbenigedd mewn rhaglenni ffeithiol mewn o leiaf un o'r ieithoedd Celtaidd perthnasol ac sy'n barod i gyd-ddatblygu gyda chwmnïau cynhyrchu sy'n gweithio yn y gwledydd partner eraill. Beth i'w gyflwyno: 1) Crynodeb byr (hyd at 30 o eiriau) 2) Crynodeb (hyd at un dudalen A4) 3) Nodiadau ar sut y bydd y cyd-ddatblygiad â chwmnïau eraill yn cael ei gyflawni 4) Cyllideb ddatblygu 5) Amlinelliad amcanol o’r gyllideb gynhyrchu gan gynnwys ffynonellau cyllid. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 19 Medi 2018. Adran gyflwyno: Celtic Factual 2018

Datblygiad Drama. Rydym yn bwriadu datblygu model newydd ar gyfer cyd-gynhyrchu drama wedi’i sgriptio rhwng darlledwyr ieithoedd Celtaidd, megis cynhyrchiad cefn wrth gefn ym mhob un o'r 3 iaith, gan gyflwyno tri fersiwn ar wahân o un senario. Byddai croeso i bartneriaid iaith ychwanegol hefyd. Prosiectau derbyniol: prosiectau Ffilm Teledu (tua 110 munud o hyd). Gall y prosiectau fod wedi eu seilio ar genre (ac eithrio genre trosedd) a dylid eu hanelu naill ai ar gyfer cynulleidfa ar ôl 9 y nos (post-watershed) neu ar gyfer cynulleidfa deuluol. Y cyllid datblygu sydd ar gael: Hyd at €60,000 neu £53,000. Pwy all wneud cais: Cwmnïau cynhyrchu sydd ag arbenigedd mewn cynhyrchu drama mewn o leiaf un o'r ieithoedd Celtaidd perthnasol ac sy'n barod i gyd-ddatblygu gyda chwmnïau cynhyrchu yn y gwledydd partner eraill. Beth i'w gyflwyno: 1) Crynodeb byr (hyd at 30 o eiriau), 2) Crynodeb (hyd at un dudalen A4), 3) Amlinelliad Stori (4-6 tudalen) a sampl o ddeunydd gweledol, 4) Nodiadau ar sut y bydd y cyd-ddatblygu gyda chwmnïau eraill yn cael ei gyflawni, 5) Cyllideb datblygu, 6) Amlinelliad amcanol o’r gyllideb gynhyrchu gan gynnwys ffynonellau cyllid. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher, 24 Hydref 2018. Adran gyflwyno: Celtic Drama 2018

Datblygiad Animeiddio. Rydym yn bwriadu datblygu prosiectau animeiddio hyd nodwedd yn seiliedig ar themâu o straeon Celtaidd (boed hynny’n chwedloniaeth neu’n straeon mwy diweddar). Byddem yn disgwyl y byddai’r rhain yn ddehongliadau modern o straeon Celtaidd sy'n cysylltu’n hawdd â chynulleidfa deulu modern yn y cenhedloedd Celtaidd ac yn fyd-eang. Prosiectau derbyniol: Ffilmiau nodwedd animeiddio (tua 90 - 110 munud o hyd). Dylai prosiectau gael eu hanelu ar gyfer cynulleidfa deuluol ac yn ddelfrydol dylai fod ganddynt apêl y tu hwnt i'r tiriogaethau Celtaidd. Y cyllid datblygu sydd ar gael: Hyd at €60,000 neu £53,000. Pwy all wneud cais: Cwmnïau cynhyrchu sydd ag arbenigedd mewn cynhyrchu animeiddio mewn o leiaf un o'r ieithoedd Celtaidd perthnasol a/neu wledydd perthnasol sy'n barod i gyd-ddatblygu gyda chwmnïau cynhyrchu yn y gwledydd eraill. Beth i'w gyflwyno: 1) Crynodeb byr (hyd at 30 o eiriau), 2) Crynodeb (hyd at un dudalen A4), 3) Amlinelliad Stori (4-6 tudalen) a sampl o ddeunydd gweledol, 4) Nodiadau ar sut y bydd y cyd-ddatblygu gyda chwmnïau eraill yn cael ei gyflawni, 5) Cyllideb datblygu, 6) Amlinelliad amcanol o’r gyllideb gynhyrchu gan gynnwys ffynonellau cyllid. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher, 24 Hydref 2018. Adran gyflwyno: Celtic Animation 2018

Am ymholiadau ynglŷn â'r broses ceisiadau i'r Gronfa Ryngwladol Geltaidd, cysylltwch ag Anna Marie Nic Dhonnacha Anna.Marie.Nic.Dhonnacha@tg4.ie

Am ymholiadau ehangach ynghylch y Gronfa Ryngwladol Geltaidd, cysylltwch ag un o'r gweithredwyr darlledwyr / cyllidwyr. BBC ALBA - Margaret Cameron Margaret.Cameron@mgalba.com S4C - Llion Iwan llion.Iwan@s4c.cymru TG4 - Mary Ellen Ní Chualáin maryellen.ni.chualain@tg4.ie Sgrin Gogledd Iwerddon / ILBF - Aine Walsh Aine @ northirelandscreen. co.uk

Ar gyfer cwmnïau cynhyrchu sy'n ceisio partneru â chwmnïau eraill yn y gwledydd Celtaidd, mae'r cyfeiriadur CMF Connect yn afr ddefnyddiol http://www.celticmediafestival.co.uk/connect/directory ac mae cofrestru gyda'r cyfeirlyfr yn gam cyntaf sy’n cael ei argymell.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?