S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

31 o enwebiadau BAFTA Cymru i S4C

Mae S4C wedi llwyddo i gael 31 o enwebiadau BAFTA Cymru eleni wrth i'r rhestr gael ei gyhoeddi ddydd Mercher, 6 Medi.

Ar frig yr enwebiadau i S4C mae'r gyfres ddrama Un Bore Mercher / Keeping Faith (Vox Pictures) gyda chwe enwebiad gan gynnwys categori Actor i Mark Lewis Jones, categori Actores i Eve Myles, categori Dylunio Gwisgoedd i Sarah Jane Perez, Cerddoriaeth Wreiddiol i Amy Wadge a Laurence Love Greed, categori Ffotograffiaeth a Goleuo i Steve Lawes ac enwebiad i Mathew Hall yn y categori Awdur.

Hefyd mae pum enwebiad yr un i ddramâu poblogaidd Bang (Joio) a Craith (Severn Screen) gan gynnwys Rhodri Meilir yn Craith yn y categori Actor a Gwyneth Keyworth yn y categori Actores.

Mae Zoe Howerska wedi ei henwebu yn y categori Dylunio Gwisgoedd ar gyfer Bang ac yng nghategori y Cyfarwyddwr mae Gareth Bryn wedi ei enwebu ar gyfer Craith a Philip John ar gyfer Bang. Yn ogystal, yn y categori Golygu mae Dafydd Hunt ar gyfer Bang a Sara Jones ar gyfer Craith. Hefyd mae Stuart Biddlecombe wedi derbyn enwebiad ar ran Craith yn y categori Ffotograffiaeth a Goleuo a Roger Williams yn y categori Awdur ar gyfer Bang.

Mae cyfres boblogaidd Parch wedi derbyn enwebiad yng nghategori y ddrama deledu orau.

Mae S4C hefyd wedi llwyddo i fachu'r holl enwebiadau yn y categori Rhaglen Blant gyda CIC (Boom Cymru), Deian a Loli (Cwmni Da) a enillodd wobr BAFTA yn 2017 a Titsh (Cwmni Da).

Mae tri enwebiad i S4C hefyd yn y categori Rhaglen Adloniant sef Only Men Aloud in Bollywood (Boom Cymru), Y Salon (Boom Cymru) ac Uchafbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol 2017 (BBC Cymru).

Mae'r ddarlledwraig Beti George hefyd wedi derbyn enwebiad yn y categori cyflwynydd am ei rhaglen ddirdynnol Beti George: Colli David (Silin).

Ymhlith y nifer lu o enwebiadau eraill mae rhaglen Cerys Matthews a'r Goeden Faled (Boom Cymru) wedi ennill enwebiad yn y categori Cyfres Ffeithiol a rhaglen Newyddion 9 Ymosodiad Manceinion (BBC Cymru) yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes.

Wrth longyfarch pawb sydd wedi derbyn enwebiad dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: "Ry' ni'n hynod falch o'r holl gynyrchiadau sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau anrhydeddus BAFTA Cymru 2018. Tra bod drama yn amlwg ar y brig, gyda nifer fawr o enwebiadau i Un Bore Mercher, Craith a Bang, mae'r rhestr gyfan yn dangos safon ac ehangder gwasanaeth S4C ar draws pob genre. Ry' ni wedi hawlio'r tri enwebiad yn y categori Plant, o ganlyniad i'n hymroddiad i gomisiynu cynnwys gwreiddiol ar gyfer plant, ac mae'r rhestr yn dathlu rhaglenni ffeithiol, adloniant, materion cyfoes, celfyddydau, a mentergarwch digidol hefyd. Rydw i'n falch iawn o bob un, a dymuniadau gorau i bawb yn y seremoni wobrwyo."

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni a arweinir gan Huw Stephens ar 14 Hydref 2018 yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd.

Y rhestr lawn o enwebiadau BAFTA Cymru i gomisiynau S4C yw:

Actor: Mark Lewis Jones, Steve Baldini yn Keeping Faith/ Un Bore Mercher (Vox Pictures)

Rhodri Meilir, Dylan Harris yn Craith (Severn Screen)

Actores: Eve Myles, Faith Howells yn Keeping Faith/ Un Bore Mercher (Vox Pictures)

Gwyneth Keyworth, Megan yn Craith (Severn Screen)

Rhaglen Blant: Cic (Boom Cymru)

Deian a Loli (Cwmni Da)

Titsh (Cwmni Da)

Dylunio Gwisgoedd: Sarah Jane Perez, Keeping Faith/ Un Bore Mercher (Vox Pictures)

Zoe Howerska, Bang (Joio)

Cerddoriaeth Wreiddiol: Amy Wadge/ Laurence Love Greed, Keeping Faith/ Un Bore Mercher

Ffotograffiaeth a Goleuo: Steve Lawes, Keeping Faith/ Un Bore Mercher (Vox Pictures)

Stuart Biddlecombe, Craith (Severn Screen)

Ffotograffiaeth Ffeithiol: Aled Jenkins, Y Ditectif (ITV Cymru)

Cyflwynydd: Beti George, Beti George: Colli David (Silin)

Ffilm Fer: Beddgelert (Bad Wolf)

Sain: John Markham, Band Cymru 2018 (Rondo Media)

Cyfarwyddwr Ffuglen: Gareth Bryn, Craith (Severn Screen)

Philip John, Bang (Joio)

Golygu: Dafydd Hunt, Bang (Joio)

Sara Jones, Craith (Severn Screen)

Rhaglen Adloniant: Only Men Aloud in Bollywood (Boom Cymru)

Y Salon (Boom Cymru)

Uchafbwyntiau Eisteddfod Genedlaethol 2017 (BBC Cymru)

Cyfres Ffeithiol: Cerys Mathews a'r Goeden Faled (Boom Cymru)

Gêm: Byd Cyw (Thud Media/ Boom Cymru)

Newyddion a Materion Cyfoes: Newyddion 9 Ymosodiad Manceinion (BBC Cymru)

Drama Deledu: Parch (Boom Cymru)

Awdur: Jeff Murphy, Hinterland (Fiction Factory)

Mathew Hall, Keeping Faith/ Un Bore Mercher (Vox Pictures)

Roger Williams, Bang (Joio)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?