S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglenni Plant gwreiddiol yn amserlen yr hydref

Mae rhaglen newydd sbon sy'n cyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) i blant oed ysgol gynradd ymysg uchafbwyntiau amserlen blant S4C ar gyfer yr hydref.

Mae'r gyfres 26 rhan Shwshaswyn yn croesawu plant i fyd tawel Seren, Fflwff a Capten fydd yn cyflwyno plant rhwng tair a saith oed i rai o dechnegau ymwybyddiaeth ofalgar.

Mae'r gyfres, sydd wedi ei chynhyrchu gan Cwmni Da, yn un o nifer of gynyrchiadau newydd i blant yn yr amserlen ar gyfer yr hydref.

Mae'r lansiad yn dod ar amser pan mae nifer o ddarlledwyr eraill wedi eu beirniadu gan Ofcom am beidio â chynhyrchu digon o raglenni plant.

Ond mae S4C, er gwaetha'r ffaith i'r darlledwr weld toriadau i'w chyllideb dros y saith mlynedd diwethaf, wedi ei chanmol am ei wasanaethau i blant, Cyw ar gyfer plant meithrin, a Stwnsh ar gyfer plant rhwng saith a thair-ar-ddeg oed. Pan gyhoeddwyd enwebiadau BAFTA Cymru ddydd Iau diwethaf (6 Medi 2018), rhaglenni a gomisiynwyd gan S4C enillodd y tri lle - CIC (Boom Cymru), Deian a Loli (Cwmni Da) a Titsh (Cwmni Da).

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: "Rydym yn hynod falch o'r ffaith bod 75% o'n cyllideb rhaglenni plant wedi ei fuddsoddi mewn rhaglenni gwreiddiol wedi eu cynhyrchu yma yng Nghymru, y Deyrnas Unedig neu mewn cyd-gynyrchiadau rhyngwladol. Mae S4C yn darlledu dros 40 awr yr wythnos o raglenni plant, llawer iawn mwy nag argymhellion Ofcom. Yn allweddol mae'r rhaglenni yn ymgyrraedd ag anghenion plant a'u teuluoedd. Mae'r ymgysylltu enfawr yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod pob sioe lwyfan gyda chymeriadau Cyw yn gwerthu allan. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddar roedd tocynnau ar gyfer cyngerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC yn chwarae caneuon ac alawon o raglenni Cyw, wedi gwerthu'n llwyr o fewn 24 awr."

Dywedodd Comisiynydd Rhaglenni Plant S4C, Sioned Wyn Roberts, fod rhaglenni megis Shwshaswyn yn adlewyrchu penderfyniad y sianel i gwrdd â gofynion ystod eang o anghenion y gwylwyr.

"Dyma'r tro cyntaf i ymwybyddiaeth ofalgar i blant gael ei chyflwyno ar deledu o fewn y Deyrnas Unedig, ac mae'n dangos ein bod yn fodlon mentro â gwasanaethau ystod eang o ddiddordebau, anghenion a galluoedd o fewn ein rhaglenni.

"Rydym yn comisiynu rhaglenni sydd wedi eu targedu'n arbennig ar gyfer anghenion ein marchnad plant iaith Gymraeg, ond mae cryfder a gwreiddioldeb y perfformiadau yn golygu y gallant gael ei datblygu a'u gwerthu i farchnadoedd drwy'r byd i gyd. Rydym wedi trwyddedu ein rhaglenni plant i dros 250 o wahanol diriogaethau drwy'r byd ers i'r sianel ddechrau ym 1982.

"Rydym wedi comisiynu rhaglenni gwreiddiol bob blwyddyn, ar gyllidebau tynn. Mae plant yn eu hoffi oherwydd eu bod yn wahanol i'r hyn mae darlledwyr eraill yn gallu cynnig.

"Un o'r rhain yw'r gyfres ddrama Deian a Loli, lle mae'r ddau brif gymeriad yn gallu rhewi eu rhieni a gwneud eu hunain yn fach er mwyn datrys problemau. Mae'r gyfres yn hynod boblogaidd, unwaith eto yn fformat gwreiddiol ac ar hyn o bryd mae ail gyfres ar ganol cynhyrchiad.

Ymysg y cyfresi eraill sy'n cael eu darlledu yn yr hydref mae cyfres, Doniolis, wedi ei chynhyrchu gan gwmni annibynnol Captain Jac, sy'n dilyn anturiaethau'r brodyr Donioli, Luigi a Louie a'u nith fach, Liwsi.

Cyfres arall eto i'w darlledu o ganol Medi yw Amser Maith yn ôl, sydd yn cymryd golwg ffres ar hanes Cymru a Phrydain dros dri chyfnod arbennig; y Celtiaid, y Normaniaid a'r Tuduriaid. Mae hwn wedi ei chynhyrchu'n arbennig i alluogi athrawon i ddefnyddio darnau yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer plant 4-8 oed.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?