S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi ei gynllun gweithredu yn sgil yr Adolygiad Annibynnol

Heddiw (Dydd Llun 17 Medi 2018) mae S4C yn cyhoeddi'r cynllun gweithredu sydd wedi ei lunio mewn ymateb i argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o S4C gan Euryn Ogwen Williams ac sydd bellach wedi derbyn cymeradwyaeth Margot James AS, Gweinidog Gwladol yn yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

Mae'r cynllun yn amlygu sut y mae S4C eisoes wedi cychwyn ar y gwaith o weithredu argymhellion yr Adolygiad.

Ymysg y meysydd ble mae cynnydd eisoes wedi ei wneud mae:

• Clustnodi cyllideb benodol ar gyfer gweithredu yn unol â chylch gorchwyl newydd.

• Trefniadau ar gyfer symud o strwythur Awdurdod a Thîm Reoli i fodel Bwrdd Unedol.

• Strategaeth Fasnachol newydd sydd yn dod â gweithgareddau masnachol S4C o dan reolaeth y Bwrdd Unedol newydd.

• Paratoadau ar gyfer lleoli "Hwb Digidol" ym mhencadlys newydd S4C yn Yr Egin, Caerfyrddin.

Dywedodd Cadeirydd S4C Huw Jones: "Mae'r gwaith sydd wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf yn dangos fod S4C wedi ymgymryd yn egnïol â'r heriau sydd wedi eu gosod allan yn yr Adolygiad. Rydym wedi camu ymlaen yn sylweddol mewn nifer o feysydd, wedi cytuno ar gynlluniau gweithredol mewn meysydd eraill, ac wedi nodi lle mae ambell i bwnc, megis yr angen i sicrhau amlygrwydd priodol i S4C ar lwyfannau digidol y dyfodol, yn gofyn am sylw pellach.

Dywedodd y Gweinidog dros Ddigidol, Margot James AS: "Rydw i am weld S4C yn ffynnu a chofleidio cyfleoedd yr oes ddigidol ac rwy'n falch o'r cynnydd sydd wedi ei wneud ers yr Adolygiad. Bydd y cynlluniau sydd wedi eu hamlinellu heddiw yn sicrhau y bydd S4C yn parhau i ddatblygu ac yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, a thramor.

Wrth groesawu cyhoeddi'r cynllun gweithredu dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns AS: "Rwy'n falch iawn o weld S4C yn ymateb yn bositif i Adolygiad Euryn Ogwen. Yn ddi-os, mae S4C yn gwneud cyfraniad aruthrol at y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ac yn allweddol iawn, at hybu'r iaith Gymraeg a'n diwylliant ledled y byd. Bydd y sicrwydd ariannol a rhoddir gan Llywodraeth y DU i'r sianel nes 2020 yn helpu i gyflawni'r diwygiadau yn yr adolygiad sydd eu hangen yn fawr, a'n helpu adeiladu dyfodol disglair i gynnwys Cymraeg ar deledu ac ar-lein."

Diolchodd Huw Jones unwaith eto i Euryn Ogwen Williams am ei waith, i'r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) am eu cydweithrediad, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns a Margot James y Gweinidog Gwladol am eu cefnogaeth ac i bawb gyflwynodd tystiolaeth i'r adolygiad.

Ymateb a chynllun gweithredu S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?