S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwylwyr HANSH yn cael blas ar faterion cyfoes

11 Hydref 2018

Mae HANSH, gwasanaeth ar-lein ffurf fer S4C, am roi blas go iawn o newyddiaduriaeth i'w gwylwyr.

Bydd HANSH: Dan Sylw yn rhoi lle i newyddiadurwyr iau fynd i'r afael â'r materion a'r straeon sy'n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru a'r byd.

Tîm materion cyfoes ITV Cymru, y criw tu ôl i gyfresi gafaelgar, Y Byd ar Bedwar a'i chwaer raglenni Y Byd yn ei Le ac Ein Byd, sydd am ychwanegu elfen newyddiadurol bwysig yma i Hansh.

Trwy'r cynllun 'Dan Sylw' rhoddir cyfle, am y tro cyntaf erioed, i newyddiadurwyr ifanc dderbyn hyfforddiant-mewn-swydd a magu'r sgiliau i gynhyrchu cynnwys materion cyfoes ffurf fer yn y Gymraeg.

Mae HANSH yn targedu'r grŵp oed 16-34 gyda fideos hynod ddychmygus, sydd yn aml yn llawn hiwmor a thynnu coes. Mae'r gwasanaeth wedi datblygu dilyniant ar-lein sylweddol ers iddo gael ei lansio'r llynedd, gydag S4C yn cofnodi 4.9 miliwn o sesiynau gwylio yn ystod y flwyddyn sy'n rhedeg o Fehefin 2017- Mawrth 2018.

Un o'r newyddiadurwyr ifanc yn nhîm materion cyfoes HANSH yw Liam Ketcher, 22 o Faesteg.

Dywedodd Liam, a ymunodd â thîm materion cyfoes ITV Cymru Wales ym mis Gorffennaf, "Dwi'n hynod o falch ac yn gyffrous iawn am y cyfle i weithio ar gynnwys newydd ar gyfer Hansh. Pwrpas 'Dan Sylw' yw ysgogi trafodaeth am y pynciau sydd yn effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru. Ein gobaith yw ymdrin â'r straeon mewn ffordd ddifyr, hygyrch ac apelgar i gynulleidfa HANSH. Dwi'n edrych 'mlaen yn fawr iawn at ddysgu'r sgiliau hanfodol ar gyfer y swydd hon ac i weithio gyda thîm profiadol ITV Cymru."

Ychwanegodd Geraint Evans, Golygydd Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru, "Rydyn ni wedi bod yn feithrinfa ar gyfer newyddiadurwyr materion cyfoes ers blynyddoedd, ac mae hi wastad yn bleser i annog a datblygu pobol ifanc sy'n awchu i wneud eu marc. Mae'r cynllun yma nawr yn rhoi'r cyfle i'r criw i arbrofi a mentro wrth deilwra straeon ar gyfer y gynulleidfa ifanc sy'n byw a bod ar-lein."

Mae Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, Amanda Rees yn credu y bydd y gwasanaeth yn ychwanegiad gwerthfawr at HANSH, sydd hefyd ar gael wedi eu pecynnu mewn rhaglenni yn y slot ar ôl 10 y nos ar wasanaeth teledu S4C.

Ychwanegodd Amanda Rees, "Mae S4C am ddatblygu'r gwasanaethau digidol yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd nesaf ac mae'r datblygiad hwn yn HANSH yn dangos ein bod ni o ddifri'. Rydym bellach yn darparu newyddiaduraeth sy'n cael ei hymchwilio'n drylwyr i drin a thrafod profiadau a phynciau sy'n berthnasol i bobl ifanc yng Nghymru trwy ffilmiau ffurf fer y maen nhw'n fwy tebygol o edrych arnyn nhw. Bydd yn helpu wrth inni ddatblygu'n gwasanaethau ar gyfer y genhedlaeth iau."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?