S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Noson Gwylwyr Y Trallwng

1 Tachwedd 2018

Mae rhai o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd S4C yn byw ac yn gweithio yng nghanolbarth Cymru ac mae camera cwmnïau teledu Cymraeg yn aml yn cael eu gweld yn ffilmio ar hyd a lled Powys - ond nawr mae cyfle i wylwyr yr ardal ddod o hyd i'w llais.

Yr wythnos nesaf, mae'r darlledwr yn cynnal Cyfarfod Gwylwyr S4C yn Ystafell Cynulliad, Neuadd y Dref, Y Trallwng nos Fercher 14 Tachwedd am 7.00pm pan fydd Prif Weithredwr y sianel Owen Evans, Cadeirydd yr Awdurdod Huw Jones, Cyfarwyddwr Cynnwys Amanda Rees ynghyd ag aelodau eraill o'r Awdurdod a'r staff, yn edrych ymlaen at drafodaeth agored, ddifyr am S4C, ei rhaglenni a'i gwasanaethau.

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones: "Mae Nosweithiau Gwylwyr S4C yn bwysig oherwydd maen nhw'n gyfle inni gwrdd â gwylwyr yn eu cymunedau. Mae modd inni glywed pa fath o raglenni y mae gwylwyr yn eu mwynhau a beth hoffent weld mwy ohono ar y sianel yn y dyfodol."

Mae croeso cynnes i wylwyr drafod pob dim o ddrama i adloniant, y gwasanaethau digidol i raglenni plant, o chwaraeon i raglenni ffeithiol, ac o HANSH i'r ddarpariaeth i ddysgwyr. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael, a gwasanaeth cyfieithu Saesneg ac offer dolen ar gael i'r rhai sydd eu hangen.

Mae cyfres Cefn Gwlad, sy'n cynnwys y cyflwynydd lleol o Lanerfyl, Mari Lovgreen, yn parhau i fod yn boblogaidd iawn. Ond ydych chi'n hapus â darpariaeth materion gwledig y sianel? Un o gymeriadau plant mwyaf adnabyddus y sianel yw Ben Dant, sy'n cael ei chwarae gan y ffermwr Aeron Pughe o Ddarowen, Machynlleth, ond oes ffyrdd i wella gwasanaeth plant S4C? Mae'r Seintiau Newydd a'r Drenewydd ymysg prif glybiau Uwch Gynghrair Cymru, ond beth ydych chi'n ei feddwl am wasanaeth chwaraeon y darlledwr?

Mae croeso i bawb ddod i fwrw eu bol ac Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Noson Gwylwyr S4C, cysylltwch â Momentwm Cyf ar (01352) 754212 neu e-bostiwch nia@momentwm.com

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?