S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Geraint Evans yw Comisiynydd Newyddion a Materion Cyhoeddus newydd S4C

Mae S4C yn falch o gyhoeddi mai Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes newydd y sianel yw Geraint Evans. Mae Geraint ar hyn o bryd yn Olygydd Rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru ac yn gyfrifol am raglenni megis Y Byd yn ei le, Y Byd ar Bedwar, Ein Byd a Cefn Gwlad.

Cyn bod yn Olygydd Rhaglenni Cymraeg roedd Geraint yn Olygydd Y Byd ar Bedwar a chyn hynny yn Ohebydd ar y gyfres.

Wedi ei fagu yn Nhrawsfynydd, Llanbrynmair a Phontarddulais, mae Geraint yn byw yn Idole ar gyrion Caerfyrddin. Fe raddiodd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth cyn gwneud Diploma ôl-radd mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Wrth groesawu ei benodiad fe ddywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: "Mae'n wych gallu croesawu Geraint i ymuno â'n tîm comisiynu ar ôl gyrfa ddisglair gyda HTV ac ITV Cymru. Mae e'n dod â phrofiad helaeth o newyddiaduraeth a materion cyfoes gydag e. Yn ddiweddar rydym wedi gweld sut mae Y Byd yn ei le wedi dod â gwedd newydd i'n darpariaeth materion cyfoes, a hefyd sut mae Cefn Gwlad ar ei newydd wedd wedi llwyddo. Edrychaf ymlaen at ei groesawu."

Dywedodd Geraint Evans: "Bydda i'n gadael ITV Cymru ar ôl nifer fawr o flynyddoedd hapus iawn. Ond mae'r cyfle i arwain ar ddarpariaeth Newyddion a Materion Cyfoes S4C yn her newydd gyffrous, ac rwy'n edrych ymlaen. Gyda'r holl ansicrwydd gwleidyddol dros Brexit mae'n amser heb ei ail i newyddiadura, i graffu ar y gwleidyddion ac i glywed barn y bobol. Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio gyda'r BBC, ITV a chynhyrchwyr eraill i sicrhau fod gwylwyr S4C yn cael y ddarpariaeth gorau posib."

Bydd Geraint yn cychwyn yn ei swydd newydd ym mis Ebrill 2019.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?