S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cwmni newydd i ddarparu isdeitlau

Mae S4C wedi cyhoeddi mai Cyfatebol sydd wedi ennill cytundeb gwasanaeth isdeitlo y sianel.

Bydd Cyfatebol yn darparu gwasanaeth isdeitlo Saesneg sy'n cynnwys gwasanaeth isdeitlo Saesneg ar gyfer rhaglenni byw a rhaglenni a gyflwynir yn agos at y dyddiad darlledu a gwasanaeth isdeitlo Cymraeg i S4C dros y pedair blynedd nesaf.

Mae Cyfatebol yn gwmni gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Caerfyrddin.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae S4C wedi bod trwy broses dendro ar gyfer yr holl wasanaethau mynediad. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth sain disgrifio; gwasanaeth arwyddo ar y sgrin a'r gwasanaeth isdeitlo.

Yn hanesyddol roedd tri chwmni gwahanol yn darparu gwaith isdeitlo i S4C. Penderfynwyd y byddai cael un cwmni i edrych ar ôl y gwasanaeth isdeitlo cyfan yn fwy ymarferol yn sgil mwy o newidiadau i'r sianel o fewn y 12 mis nesaf.

Esboniodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Bydd y drefn newydd yn hwyluso'r broses wrth i'r BBC ddod yn gyfrifol am holl swyddogaethau darlledu a thechnegol S4C yn ystod chwarter cyntaf 2019 ac wrth i swyddogaethau technegol y ddau sefydliad gael eu lleoli ar y cyd yn adeilad y BBC yn y Sgwâr Canolog wedi hynny."

Gwelir y gwasanaethau mynediad fel modd pwysig i alluogi S4C i ehangu ei chynulleidfa a'i hapêl i wylwyr.

Mae isdeitlo yn Saesneg ac yn Gymraeg, ynghyd ag arwyddo, sain ddisgrifio a gwasanaethau disgrifiadol ail-sgrin yn darparu ystod o wasanaethau sy'n cyfoethogi darpariaeth S4C ac yn sicrhau fod cynnwys ar gael i rai sydd ag anghenion penodol yn ogystal ag i gymuned ehangach o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg o bob lefel rhuglder a'r di-Gymraeg.

"Cynigodd Cyfatebol becyn arloesol i ymateb i'n anghenion isdeitlo fydd yn gwella ein hyblygrwydd wrth gynnig gwasanaethau mynediad yn y dyfodol," meddai Mr Evans.

"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gyd-weithio gyda Cyfatebol - cwmni lleol sy'n cynnig y math o sgiliau a thalent sydd angen ar S4C i gynnig y gwasanaeth gorau i'n gwylwyr ac i sicrhau dyfodol disglair i'r sianel."

Mae cwmni CTV wedi cadw'r cytundeb ar gyfer sain ddisgrifio a bydd ITV SignPost yn parhau i ddarparu gwasanaeth arwyddo ar y sgrin. Bydd y cytundebau newydd yn cychwyn ar 27 Chwefror2019 ac yn parhau am bedair mlynedd.

Dywedodd Owain Saunders-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyfatebol: "Rydym yn hynod o falch o'r cyfle i gydweithio gyda S4C a'r cwmnïau cynhyrchu rhaglenni ar draws Cymru i gyflenwi gwasanaethau isdeitlo newydd.

"Mae'r cyfnod hwn yn gyfnod trawsnewidiol o fewn y byd darlledu a hefyd o ran mynediad i raglenni. Mae Cyfatebol yn edrych ymlaen at gyfnod o gydweithio brwd er mwyn ymateb yn llawn i'r gofynion newydd."

NODIADAU

Yn ystod 2018 darparwyd y gwasanaethau mynediad canlynol gan S4C:

Is-deitlau Cymraeg - Mae'r isdeitlau hyn ar gael yn bennaf ar gyfer y bobl fyddar sydd â cholled clyw sy'n siarad Cymraeg yn ogystal â phobl sy'n dysgu siarad Cymraeg. Darparwyd isdeitlau Cymraeg ar 13 awr o raglenni bob wythnos ar gyfartaledd. Mae isdeitlau Cymraeg a Saesneg hefyd ar gael ar wasanaeth S4C Clic.

Is-deitlau Saesneg - Bwriad y gwasanaeth hwn yw ehangu apêl y rhaglenni ar gyfer gwylwyr di-Gymraeg, pobl fyddar, a phobl sydd â cholled clyw. Trwy wasgu'r botwm "Is-deitlau" ar y teclyn rheoli, gellir gweld isdeitlau ar gyfer pob math o raglenni, gan gynnwys rhaglenni byw. Caiff rhai rhaglenni eu darlledu gydag isdeitlau agored. Fel arfer, ail-ddarllediadau o raglenni poblogaidd yw'r rhain. Yn ystod y flwyddyn roedd is-deitlau Saesneg ar gael ar 78.24% o'r rhaglenni (targed Ofcom yw 53%).

Sain Ddisgrifio - Mae'r gwasanaeth Sain Ddisgrifio ar rai rhaglenni yn rhoi sylwebaeth, trwy ddewis, yn y Gymraeg i lenwi'r cyfnodau pan nad oes unrhyw ddeialog mewn rhaglenni. Mae'n cynnwys disgrifiad ychwanegol i gynorthwyo defnyddwyr dall neu rannol ddall ddilyn rhaglenni'n haws. Darparwyd y gwasanaeth hwn ar gyfer 10.63% o'r rhaglenni - (targed Ofcom yw 10%).

'Arwyddo' rhaglenni - Cafodd rhai rhaglenni, fel arfer ar y penwythnos, eu harwyddo yn BSL (British Sign Language) ar gyfer gwylwyr byddar a'r rhai sy'n defnyddio iaith BSL. Roedd y gwasanaeth ar gael ar 5.24% o raglenni (targed Ofcom yw 5%).

Mae S4C yn cynnig cyfleoedd i ddefnyddio, mwynhau a chlywed y Gymraeg ar ystod o blatfformau.Gyda gwasanaethau fel Cyw i blant bach, Stwnsh i blant hŷn, y brand ar-lein Hansh, cynnwys dysgwyr, dramâu sy'n gwerthu'n rhyngwladol, adloniant, rhaglenni ffeithiol a chwaraeon at ddant pawb, mae ei gwasanaethau yn cyrraedd cynulleidfa eang.

Mae Cyfatebol yn gwmni cyfieithu, sain ac isdeitlo yn ogystal â golygu a phrawf ddarllen.Mae'r cwmni hefyd yn gwmni cyhoeddi yn ogystal â bod yn gwmni digidol amlgyfrwng sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol am eu gwaith.Mae Cyfatebol yn gweithio gyda chleientiaid o'r sectorau cyhoeddus, corfforaethol, masnachol, elusennol yn ogystal â chwmnïau preifat.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?