S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C ar gael mewn manylder uchel ar Virgin Media Sianel 166

Gall cwsmeriaid Virgin Media nawr fwynhau rhaglenni S4C mewn manylder uchel, a hynny wrth i bencampwriaeth y Chwe Gwlad gychwyn.

Fel rhan o bartneriaeth arbennig rhwng S4C a Virgin Media, gall cwsmeriaid Virgin Media TV fwynhau holl arlwy S4C ar deledu manylder uchel safonol.

Mae S4C yn ddarlledwr-gyhoeddwr sy'n comisiynu 1,700 awr o gynnwys gwreiddiol bob blwyddyn o'r sector gynhyrchu annibynnol. Nod S4C yw darparu cynnwys a gwasanaethau cyfryngol yn yr iaith Gymraeg sydd o safon uchel, sy'n cynnig adloniant, gwybodaeth ac sy'n ysbrydoli, ac sy'n cyrraedd cymaint o bobl â phosibl ar y llwyfannau cyfoes mwyaf priodol. fewn un sianel deledu, o chwech bob bore tan yn hwyr y nos, saith diwrnod yr wythnos, mae S4C yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr yn yr iaith Gymraeg ar draws ystod eang o genres ar gyfer pob rhan o'r gymuned yng Nghymru.

Mae Virgin Media yn cynnig pedwar gwasanaeth arbennig ar draws y Deyrnas Unedig ac Iweddon: gwasanaeth band llydan, teledu, ffôn symudol a ffôn tŷ. Mae gwasanaeth teledu Virgin yn cynnig teledu byw, oriau o raglenni ar alw ac apiau a gemau i gwsmeriaid drwy dabledau a ffonau clyfar.

Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r bartneriaeth yma gyda Virgin Media a hynny mewn pryd wrth i Bencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad gychwyn. Bydd y bartneriaeth hon yn ffordd o ledaenu apêl S4C ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Virgin Media."

Meddai David Bouchier, Uwch Swyddog Digidol i Virgin Media: "Mae ein partneriaeth gyda S4C yn dangos ein ymrwymiad i sicrhau'r profiad gorau i'n cwsmeriaid. Rydym wrth ein bodd i allu cynnig S4C mewn manylder uchel fel gall ein cwsmeriaid fwynhau cynnwys gwych mewn safon arbennig."

Mae S4C HD ar gael ar sianel 166 ar Virgin Media.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?