S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi partneriaeth newydd rhwng S4C a Mudiad Meithrin

7.2.2019

Mae S4C a Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi partneriaeth newydd sbon er mwyn rhannu ymrwymiad o gynnig cyfleoedd i ddefnyddio, mwynhau a chlywed y Gymraeg.

Prif amcan a phwrpas gwaith Mudiad Meithrin yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae S4C yn darparu cynnwys a gwasanaethau cyfryngol yn yr iaith Gymraeg sy'n cynnig adloniant, gwybodaeth ac sy'n ysbrydoli, ac sy'n anelu i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl ar y llwyfannau cyfoes mwyaf priodol.Mae'r iaith yn greiddiol i fodolaeth S4C, ac, fel yr unig sianel deledu Gymraeg, mae ganddi le arbennig iawn o ran sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith hyfyw.

Mae gan y ddau sefydliad rôl i'w chwarae yng nghyd-destun y nod o weld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Trwy ffurfioli ein cydweithio, rydym yn credu y gallwn greu cyfleoedd i gaffael a throsglwyddo'r iaith Gymraeg ac i gefnogi plant, teuluoedd a gofalwyr ar bob lefel o ruglder yn y blynyddoedd cynnar.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

"Plant – eu lles a'u hiechyd, eu gallu i chwarae a datblygu yn Gymraeg a magu hyder, a'r cyfleodd a gynigir iddynt sy'n gyrru cenhadaeth Mudiad Meithrin i hyrwyddo'r Gymraeg. Mae Mudiad Meithrin ac S4C, trwy raglenni Cyw yn bennaf, wedi bod yn cydweithio'n effeithiol ers blynyddoedd i hyrwyddo'r holl wasanaethau a'r hwyl sydd ar gael i blant a'u teuluoedd trwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym yn falch iawn o allu ffurfioli'r cydweithio hapus yma trwy gyhoeddi'r Memorandwm Dealltwriaeth rhwng Mudiad Meithrin ac S4C."

Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C:

"Bydd y bartneriaeth hon yn golygu y gallwn rannu arbenigedd, blaenoriaethau, gwybodaeth, ymchwil a syniadau er mwyn datblygucynlluniau, mentrau a gweithgareddau fydd o fudd i'n cynulleidfaoedd. Mae S4C a Mudiad Meithrin yn rhannu nifer o'r un gwerthoedd ac rydym yn edrych mlaen yn fawr at gydweithio'n agos gyda Mudiad Meithrin fel rhan o'r bartneriaeth hon."

Mae'r ddau fudiad hefyd yn bwriadu cydweithio ar wasanaethau dysgwyr. Mae cefnogi ac ymgysylltu gyda dysgwyr o bob lefel yn greiddiol i S4C. Mae'n nod gan S4C i gael ei gweld fel y cartref naturiol i gynnwys Cymraeg ar bob lefel o ruglder ac S4C yw partner darlledu cynllun Clwb Cwtsh Mudiad Meithrin.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?