S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cam yn nes at y Sgwâr Canolog

Dydd Llun (25 Chwefror 2019) bydd 34 o staff technegol S4C yn trosglwyddo i gyflogaeth y BBC. Dyma'r cam diweddaraf wrth i'r sianel baratoi ar gyfer cydleoli gyda'r BBC yn Sgwâr Canolog, Caerdydd ar ddechrau 2020. O hynny ymlaen y BBC fydd yn gyfrifol am ddarlledu a dosbarthu S4C, ar deledu ac ar-lein. Hefyd y BBC fydd yn gyfrifol am weddill isadeiledd technegol S4C.

Wrth ddiolch i'r staff sy'n trosglwyddo i gyflogaeth y BBC dan TUPE (Transfer of Undertakings (Protection of Employment) Regulations) dywedodd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans: "Mae nifer fawr o'r staff sy'n trosglwyddo wedi rhoi oes o wasanaeth i S4C. Rydym wedi gweld newid mawr mewn technoleg dros y blynyddoedd ac rwy'n ddiolchgar dros ben i bob un am eu gwaith. Mae staff wedi arwain wrth gyflwyno gwasanaethau newydd, megis S4C Clic, ein darlledu ar y we ac erbyn heddiw ein gallu i weithredu o unrhyw le ble mae modd cysylltu â'r we.

"Rhwng dydd Llun a 2020 bydd y staff yma'n parhau i sicrhau fod cynnwys S4C yn cyrraedd ein gwylwyr o Barc Tŷ Glas. Yna yn 2020 bydd cyfnod newydd yn cychwyn ble bydd ein holl wasanaethau technegol wedi eu lleoli yn y Sgwâr Canolog. Mae yna lawer o waith i'w wneud cyn hynny, ond rwy'n gwybod y byddwn yn gallu dibynnu ar y staff ymroddedig yma.

Dywed Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Mae'n braf iawn gallu croesawu'r unigolion yma i deulu BBC Cymru ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â hwy. Drwy ddod â'r adrannau at ei gilydd, byddwn nid yn unig yn sicrhau gwasanaeth o safon uchel i S4C ond hefyd yn cryfhau'r ystod o sgiliau ac arbenigedd ar draws gwasanaethau technegol a darlledu. Hoffwn ddiolch i gydweithwyr yn S4C a BBC Cymru am eu holl waith yn paratoi at y cyfnod newydd hwn a byddwn yn parhau i gydweithio'n agos yn ystod y cyfnod trosglwyddo."

Bydd S4C yn parhau i gomisiynu ac amserlennu yn ôl yr arfer, bydd pencadlys y sianel yn parhau yng Nghanolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin a bydd swyddfa yn parhau yng Nghaernarfon yn ogystal â Chaerdydd.

Bydd gan S4C tua 25 o staff yn gweithio o'r swyddfeydd yn y Sgwâr Canolog – gan gynnwys yr Adran Gyflwyno, Hyrwyddo a Masnachol.

Fe ad-leolodd swyddfa'r Prif Weithredwr a'r Adrannau Cyfreithiol, Cyllid, Cyfathrebu, Adnoddau Dynol a Materion Busnes i Ganolfan S4C Yr Egin ym mis Medi 2018 – cyfanswm o 55 o swyddi.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?