S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Peldroediwr yn edrych ymlaen at weld ei wallt yn britho ar Heno

Mae un o arwyr pêl-droed Cymru wedi mentro i 'faes' newydd - gohebu ar y sioe gylchgrawn nosweithiol ar S4C, Heno.

Mae Owain Tudur Jones wedi rhwydo swydd fel trydydd gohebydd y gyfres yng Ngogledd Cymru, gan ymuno â dau arall sy'n sgorio'n uchel gyda gwylwyr y sianel, Elin Fflur a Gerallt Pennant.

Fe fydd cic gyntaf y cyn chwaraewr canol cae ar Heno nos Lun, 8 Ebrill.

Ac mae'r gŵr 34 oed o Fangor, a chwaraeodd dros Gymru saith o weithiau ac sydd yn byndit pêl-droed ar Sgorio a BBC Radio Cymru, yn edrych ymlaen yn arw at y sialens.

Dywed Owain Tudur Jones, sy'n briod ac yn dad i ddau o blant, "Dw i'n wir yn ddiolchgar am y cyfle i fod yn ohebydd ar Heno. Mae'n sialens wahanol i fod yn sylwebydd a pundit pêl-droed a dyna'r rheswm roedd y swydd yn apelio gymaint.

"Fyddai'n cael cyfle rŵan i adrodd straeon a chyfweld hefo pobol ar raglen sydd mor bwysig i wylwyr S4C. Mae peryg i gyflwynydd neu pundit chwaraeon gael ei 'typecastio' yn union yr unffordd ag actor, ond bydd y profiad o ohebu ar Heno yn ychwanegu arf i'n sgiliau i," meddai, gan ychwanegu y bydd yn parhau fel sylwebydd chwaraeon hefyd.

Mae Owain wedi arfer â llwyddiant ar y cae ac oddi arno, gan iddo ennill anrhydeddau fel rhan o dîm Abertawe rhwng 2005 a 2009 a helpu'r rhaglen blant Cic ennill gwobr BAFTA Cymru y llynedd fel un o ddau gyflwynydd y gyfres.

"Mae yna elfennau scary am y swydd newydd, a dwi'n siŵr o ychwanegu at y blew gwyn ar fy mhen! Ond mae amryw silver fox wedi llwyddo ar deledu!" meddai Owain, sy'n edmygu darlledwr enwog â'r gwallt wedi britho, Phillip Schofield ar This Morning ITV fel cyflwynydd.

Mae Golygydd Cyfres Heno a'r cyflwynydd Angharad Mair o gwmni cynhyrchu Tinopolis yn credu y bydd Owain yn gaffaeliad mawr i'r rhaglen gylchgrawn sy'n cael ei darlledu yn bennaf o Lanelli ond hefyd o Gaernarfon Llun-Gwener am 7.00pm ar S4C.

Dywed Angharad Mair, "Rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu ehangu ein darpariaeth o'r gogledd er mwyn sicrhau bod yr holl ddigwyddiadau o ben pellaf Pen Llŷn i'r gororau yn cael eu lle haeddiannol ar Heno a Prynhawn Da. Mae Elin, Gerallt ac Owain yn edrych ymlaen at gasglu straeon pobl y gogledd, a chroeso i bawb alw mewn i'r swyddfa yn Galeri, Caernarfon unrhywbryd."

diwedd

FFEITHIAU CHWIM AM OWAIN

Mae'n un o hyfforddwyr tîm Cymru 'C' - tîm lled-broffesiynol Cymru - maen nhw newydd chwarae yn erbyn yr Hen Elyn, Lloegr. Mae'n mwynhau gwaith hyfforddi - ond yn dweud ei fod o'n fwy 'intense' ac yn golygu mwy o waith paratoi na chwarae'r gêm.

Mae ei daid Geraint Vaughan Jones yn nofelydd Cymraeg adnabyddus, ac mae gwreiddiau ei deulu ym Mlaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd.

Mae wedi chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru ac Uwch Gynghrair yr Alban, yn ogystal â phyramid Lloegr. Mae wedi cynrychioli cyfanswm o 10 clwb; Porthmadog, Bangor, Abertawe, Swindon Town (ar fenthyg), Norwich City, Yeovil Town (ar fenthyg), Brentford (ar fenthyg), Inverness Caledonian Thistle, Hibernian a Falkirk.

Cafodd 3 chap i dîm dan-21 Cymru yn ogystal â'r 7 cap i Gymru.

Bu'n rhaid iddo ymddeol yn gynnar fel peldroediwr yn 2015 oherwydd anaf difrifol i'w ben-glin.

Mae'n edmygu Gary Lineker a Dylan Ebenezer fel cyflwynwyr chwaraeon, ac ynghyd a Phillip Schofield, mae Ifan Jones Evans a Trystan Ellis-Morris yn gyflwynwyr y mae ganddo barch anferth atynt.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?