S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pedair Gwobr Ryngwladol Efrog Newydd i S4C

Mae pedair o raglenni S4C wedi derbyn clod rhyngwladol yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2019 neithiwr (9 Ebrill 2019).

Yn derbyn tystysgrif anrhydedd yn y categori rhaglen adloniant i blant mae'r gyfres hynod boblogaidd Deian a Loli (Cwmni Da). Mae Deian a Loli wedi profi i fod yn un o raglenni plant mwyaf poblogaidd S4C ac fe lwyddodd y gyfres hefyd i dderbyn gwobr clod uchel yng ngwobrau Broadcast yn Llundain fis Chwefror.

Hefyd yn derbyn tystysgrif anrhydedd mae rhaglen ddogfen emosiynol Elin Fflur DRYCH: Chdi, Fi ac IVF (Tinopolis). Llwyddodd y rhaglen hon i gyffwrdd calonnau ac ennill anrhydedd yn y categori rhaglen ddogfen ar iechyd a materion meddygol.

Yn cipio medal efydd yn y categori rhaglen ddogfen gymunedol mae rhaglen Ffion Dafis: Bras, Botox a'r Bleidlais (Rondo Media). Mae'r rhaglen ysbrydoledig hon yn dilyn taith bersonol Ffion Dafis i glywed straeon anhygoel menywod Cymru heddiw.

Llwyddodd drama drosedd boblogaidd Craith (Severn Screen) i gipio medal arian yn y categori drama drosedd. Mae Craith wedi derbyn sylw rhyngwladol a bydd yr ail gyfres i'w gweld ar S4C yn yr Hydref.

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C:

"Llongyfarchiadau i bawb ar yr gwobrau. Mae pedair gwobr ryngwladol fel hyn yn bluen yn het S4C ac yn glod i'r sector gynhyrchu talentog sydd gennym ni yng Nghymru. Mae cael y cyfle i godi proffil S4C ar lwyfan rhyngwladol yn rhywbeth arbennig iawn ac yn destun balchder mawr."

Mae Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd yn dathlu creadigrwydd y diwydiant cyfryngau ar draws hanner cant o wledydd. Cynhaliwyd seremoni wobrau'r ŵyl yn Las Vegas ar 9 Ebrill 2019.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?