S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Owain Lloyd yw Ysgrifennydd newydd Bwrdd S4C

Mae S4C yn falch o gyhoeddi mai Ysgrifennydd newydd Bwrdd y sianel yw Owain Lloyd.

Wedi gweithio i'r Gwasanaeth Sifil am dros 20 mlynedd mewn amryw o swyddi o fewn Llywodraeth Cymru mae Owain wedi bod yn rheoli is adran Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar y Llywodraeth dros y dair blynedd a hanner diwethaf gan arwain ar nifer o ymrwymiadau gan gynnwys cynnig gofal plant y Llywodraeth i blant tair a phedair oed drwy Gymru gyfan.

Yn wreiddiol o Aberdâr mae Owain erbyn hyn wedi ymgartrefu yn Yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.

Fel rhan o'i swydd newydd bydd Owain yn gyfrifol am gynghori'r Bwrdd er mwyn sicrhau bod llywodraethiant priodol ac effeithiol ar holl waith S4C.

Wrth groesawu ei benodiad fe ddywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones: "Rydym yn falch iawn o fedru penodi rhywun sy'n uchel iawn ei barch yn ei swydd bresennol gyda Llywodraeth Cymru, i gymryd cyfrifoldeb am y swydd allweddol hon, ar adeg o newid yng nghyfansoddiad S4C. Bydd Owain yn gaffaeliad mawr i'r tîm. "

Dywedodd Owain Lloyd: "Rwy'n edrych mlaen yn fawr at ymuno â thîm S4C. Ar ôl ugain mlynedd o weithio mewn un sefydliad dwi'n barod at her gwbl newydd. Mae'n gyfnod arbennig i S4C gyda nifer o newidiadau cyffrous a dwi'n gobeithio gallu dod â'r sgiliau rwyf wedi meithrin dros y blynyddoedd diwethaf i helpu Bwrdd y sianel i ddatblygu ymhellach. "

Bydd Owain yn cychwyn yn ei swydd newydd ym 1af Awst 2019.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?