S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C Clic yn cynnig sianel bersonol i wylwyr

24 Mai 2019

Mae datblygiadau newydd ar S4C Clic yn golygu bod modd i ddefnyddwyr greu sianel bersonol eu hunain.

Yn rhan o'r datblygiadau bydd modd i ddefnyddwyr greu proffiliau ar gyfer y teulu, greu rhestr bersonol o raglenni a pharhau i wylio rhaglen o'r un man.

Yn ystod mis Mehefin bydd gofyn i ddefnyddwyr gofrestru er mwyn defnyddio adnoddau S4C Clic.

Bydd unrhyw un a fydd yn cofrestru rhwng 27 Mai i 10 Awst yn cael y cyfle i ennill Teledu Smart Sgrîn Lydan 49". Dim ond unwaith sydd angen cofrestru ac mae'n cymryd munud neu ddwy yn unig.

Dros y misoedd diwethaf mae S4C wedi rhyddhau nifer o gyfresi Bocs Set ar S4C Clic.

Mae'r cyfresi wedi profi i fod yn hynod llwyddiannus gyda nifer o glasuron fel Con Passionate, Y Gwyll a 35 Diwrnod yn dod i'r brig. Mae nifer o hen gyfresi hefyd fel Nyth Cacwn a Tair Chwaer wedi dal dychymyg a chreu atgofion i'n gwylwyr.

Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C:

"Mae'r datblygiadau cyffrous yma gyda S4C Clic yn rhan o strategaeth y sianel i ddatblygu yr arlwy digidol.

" Mae'r degau o Bocs Sets sydd eisoes wedi eu rhyddhau wedi bod yn hynod llwyddiannus gyda gwylwyr yn mwynhau ychydig o nostalgia ac edrych nol ar rhai o glasuron y Sianel.

"Rydyn ni hefyd yn derbyn fod pobl yn gwylio mewn amryw o ddulliau gwahanol erbyn hyn ac mae'n rhaid i'n gwasanaeth ar alw fod yn soffistigedig ac o'r safon uchaf.

"Mae llwyddiant ein cyfres ddrama newydd Merched Parchus a gafodd ei rhyddhau ar lein yn gyntaf hefyd yn profi pwysigrwydd ein gwasanaeth digidol ac mae'n ffordd i ni allu targedu gwylwyr iau."

Yn ystod y chwe mis diwethaf mae bron i filiwn o raglenni wedi eu gwylio ar S4C Clic.

Mae dros 1,400 eisoes wedi cofrestru ar y gwasanaeth ac mae S4C yn annog defnyddwyr i gofrestru ar unwaith er mwyn cymryd mantais o'r holl adnoddau.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?