S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

23 o enwebiadau BAFTA Cymru i S4C

Mae S4C wedi llwyddo i gael 23 o enwebiadau BAFTA Cymru eleni wrth i'r rhestr gael ei gyhoeddi ddydd Iau, 5 Medi.

Ar frig yr enwebiadau i S4C mae'r gyfres ddrama Enid a Lucy (Boom Cymru) gyda phump enwebiad gan gynnwys categori Drama Deledu, categori Actores i Eiry Thomas, categori Torri Trwodd i Steffan Cennydd, categori Cyfarwyddwr: Ffuglen i Rhys Powys a Golygu i Angharad Owen.

Cipiodd S4C yr holl enwebiadau yn y categori Rhaglen Adloniant gan gynnwys Cân i Gymru: Dathlu'r 50 (Avanti), Elis James – Cic Lan Yr Archif (Cynyrchiadau Alpha), Geraint Thomas: Vive Le Tour (Tinopolis) a Priodas Pum Mil (Boom Cymru).

Llwyddodd S4C i gael tair enwebiad yn y categori Rhaglen Blant gan gynnwys Cyw a'r Gerddorfa (Boom Cymru), Deian a Loli a'r Ffarwel (Cwmni Da) a Prosiect Z (Boom Cymru).

Yn y categori Dylunio Gwisgoedd enillodd Dawn Thomas Mondo enwebiad ar gyfer ffilm drasig Morfydd. Cafodd James Spinks hefyd enwebiad ar ei waith ar ffilm Morfydd (Boom Cymru) yn y categori Colur a Gwallt, yn ogystal â Claire Pritchard Jones ar gyfer Un Bore Mercher (Vox Pictures).

Enillodd Cynefin (Rondo Media) enwebiad yn y categori Cyfres Ffeithiol.

Cafwyd dau enwebiad yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes sef Ein Byd (ITV Cymru) a Y Byd yn ei Le (ITV Cymru)

Llwyddodd rhaglen ddogfen emosiynol Elin Fflur sef DRYCH: Chdi, Fi ac IVF (Tinopolis) i ennill enwebiad yn y categori Rhaglen Ddogfen Sengl.

Enillodd tîm cynhyrchu Rondo Media enwebiad yn y categori Sain ar gyfer eu gwaith ar Cyngerdd Heddwch Berlin hefyd.

Yn ogystal cafwyd enwebiad i Elen (Cynhyrchiadau Ie Ie) yn y categori Ffilm Fer, ac fe gafodd yr awdures dalentog Fflur Dafydd enwebiad yn y categori Awdur am ei gwaith ar 35 Awr (Boom Cymru). Llwyddodd Cai Morgan hefyd i ennill enwebiad yn y categori Torri Trwodd am ei waith amrywiol ar blafformau S4C gan gynnwys gwasanaeth digidol Hansh.

Wrth longyfarch pawb sydd wedi derbyn enwebiad dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: "Ry'n ni'n hynod falch o'r holl gynyrchiadau sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau anrhydeddus BAFTA Cymru 2019. Tra bod drama ac adloniant yn amlwg ar y brig, gyda nifer fawr o enwebiadau, mae'r rhestr gyfan yn dangos safon ac ehangder gwasanaeth S4C ar draws pob genre. Mae'r rhestr yn dathlu rhaglenni plant, drama, ffeithiol, adloniant, materion cyfoes, chwaraeon, a mentergarwch digidol hefyd. Rydw i'n falch iawn o bob un, a dymuniadau gorau i bawb yn y seremoni wobrwyo."

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar 13 Hydref 2019 yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd.

Y rhestr lawn o enwebiadau BAFTA Cymru i gomisiynau S4C yw:

ACTORES

EIRY THOMAS fel Enid yn Enid a Lucy

GWOBR TORRI TRWODD

CAI MORGAN ar gyfer amrywiol

STEFFAN CENNYDD ar gyfer Enid a Lucy

RHAGLEN BLANT

CYW A'R GERDDORFA

DEIAN A LOLI A'R FFARWEL

PROSIECT Z

DYLUNIO GWISGOEDD

DAWN THOMAS-MONDO ar gyfer Morfydd

CYFARWYDDWR: FFUGLEN

RHYS POWYS ar gyfer Enid a Lucy

GOLYGU

ANGHARAD OWEN ar gyfer Enid a Lucy

RHAGLEN ADLONIANT

CÂN I GYMRU: DATHLU'R 50

ELIS JAMES – CIC LAN YR ARCHIF

GERAINT THOMAS: VIVE LE TOUR

PRIODAS PUM MIL

CYFRES FFEITHIOL

CYNEFIN

COLUR A GWALLT

Claire Pritchard-Jones ar gyfer Keeping Faith / Un Bore Mercher

JAMES SPINKS ar gyfer Morfydd

NEWYDDION A MATERION CYFOES

EIN BYD

Y BYD YN EI LE

FFILM FER

ELEN

RHAGLEN DDOGFEN SENGL

DRYCH: CHDI, FI AC IVF

SAIN

Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Cyngerdd Heddwch Berlin

DRAMA DELEDU

ENID A LUCY

AWDUR

FFLUR DAFYDD ar gyfer 35 Awr

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?