S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mae Ewrop angen Cymru… i ddewis seren Junior Eurovision!

Connie Fisher, Lloyd Macey a Tara Bethan​

23 Medi 2019

Mae materion Brexit bellach tu hwnt i ddwylo'r bobl ar lawr gwlad. Ond mae un bleidlais dros fater Ewropeaidd sydd dal yn nwylo'r bobl… y bleidlais i ddewis seren Cymru ar gyfer Junior Eurovision Song Contest 2019!

Yndi, mae Ewrop angen i Gymru ddewis eu seren, a bydd y bleidlais dyngedfennol yn cael ei chynnal nos Fawrth, 24 Medi, yn rhan o ffeinal Chwilio am Seren Junior Eurovision, fydd yn darlledu yn fyw o Venue Cymru, Llandudno am 8.00 ar S4C.

Allan o'r cannoedd o ymgeiswyr, mae chwech set o berfformwyr wedi cyrraedd ffeinal y gyfres sy'n darganfod talentau ifanc, Chwilio am Seren Junior Eurovision. Y tri mentor, Connie Fisher, Tara Bethan a Lloyd Macey wynebodd yr her o ddewis y chwech ola', ond mae'r amser wedi dod i'r genedl wneud eu penderfyniad.

Drwy gyfuniad o bleidlais gyhoeddus a barn pum panel ledled Cymru a Llundain, mi fydd enillydd yn cael ei ddewis i hedfan draw i Gliwice, Gwlad Pŵyl, ddiwedd Tachwedd i gynrychioli Cymru ar lwyfan y Junior Eurovision, gan berfformio o flaen cynulleidfa o filiynau ar hyd Ewrop.

Manw Lili o Rostryfan lwyddodd i ennill ei lle i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth yn 2018 draw ym Minsk, Belarus, gan berfformio'r gân arbennig gan Yws Gwynedd, Perta, ar y llwyfan Ewropeaidd. Eleni, mae'r gân sydd wedi ei llunio yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth wedi cael ei chyfansoddi gan gyn berfformwyr cystadleuaeth yr Eurovision, sef Sylvia Strand a John Gregory, sy'n byw yng Nghwm Rhondda Fawr. Enw'r gân yw Calon yn Curo, a'r rapiwr a'r cyfansoddwr Ed Holden sydd wedi llunio'r geiriau.

Ag yntau wedi bod yn sgidiau'r cystadleuwyr yn cystadlu ar sioe dalent enwog ITV, The X Factor, tybed sut gyngor sydd gan y mentor Lloyd Macey i'w rannu gyda'r chwech sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol?

Tips Lloyd Macey i'r 6 ola'

1 - Pob tro chi'n perfformio meddyliwch bo' chi 'di 'neud y perfformiad yn barod. Dychmygwch eich hunan ar ôl y perfformiad gyda'ch teulu, y mentoriaid a'r gynulleidfa yn wen o glust i glust achos bod y perfformiad 'di mynd yn wych.

2 - Cofiwch dwymo'r llais cyn unrhyw berfformiad.

3 - Mwynhewch bob eiliad ar y llwyfan a chofiwch bo' chi 'di perfformio'r gân sawl gwaith mewn ymarferion.

4 - Gwnewch yn siŵr bo' chi'n gorffwys digon ac yfwch ddigon o ddŵr.

5 - Dangoswch i'r gynulleidfa faint chi'n mwynhau ar y llwyfan a chofiwch i beidio cau eich llygaid wrth berfformio.

6 - Ewch amdani ar y 24ain a phob lwc i chi 'gyd! Chi yw'r 6 ola'! Beth bynnag sy'n digwydd dylech chi fod yn browd iawn o'ch hunan.

Pwy fydd yn swyno'r gynulleidfa ar noson fawr y ffeinal? Gwyliwch, nos Fawrth, 24 Medi ar S4C!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?