S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

"Diolch Warren" – anrheg arbennig i Gats gan S4C

Warren Gatland yn cael ei gyflwyno gyda'r darlun 'Diolch Warren', gan y darlunydd Meirion Jones a Cyfarwyddwr Cynnwys S4C , Amanda Rees.

02 Rhagfyr 2019

I ddathlu ei gyfraniad allweddol i rygbi yng Nghymru, mae S4C wedi cyflwyno darlun wedi'i gomisiynu'n arbennig i Warren Gatland.

Wedi ei baentio mewn acrylig gan y darlunydd o Geredigion, Meirion Jones, mae'r darlun yn portreadu Warren gyda'i gyd-hyfforddwyr, Robin McBryde, Rob Howley, Shaun Edwards, Neil Jenkins, Paul 'Bobby' Stridgeon a rheolwr y tîm Alan Phillips.

Cafodd y llun ei gyflwyno iddo cyn gêm Cymru yn erbyn y Barbariaid penwythnos diwethaf, yn Stadiwm Principality, gan Gyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees.

Darlun 'Diolch Warren', a'i paentiwyd gan Meirion Jones.

Ers iddo gymryd rheolaeth dros y tîm ym mis Rhagfyr 2007, fe arweiniodd Gymru at bedwar pencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan gynnwys tair Camp Lawn, yn ogystal â chyrraedd y rowndiau cynderfynol mewn dau Gwpan y Byd.

Eleni, fe lwyddodd i arwain Cymru at rif un ar restr detholion y byd World Rugby. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae S4C wedi dangos pob un o'r gemau y mae wedi bod wrth y llyw yn ystod y Chwe Gwlad, Gemau'r Hydref a Chwpan Rygbi'r Byd.

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Wrth i Warren symud yn ôl i Seland Newydd, ry'n ni'n gobeithio bydd y darlun hwn yn ei atgoffa o'r holl ddyddiau da mae e wedi rhoi i bobl Cymru.

"Mae Warren â'i dîm wedi creu atgofion fydd yn aros gyda ni am weddill ein bywydau, ac mae wedi bod yn anrhydedd pur i allu dangos yr holl gemau yma i'r cefnogwyr. Gan bawb yn S4C: Diolch o galon, Warren."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?