S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​"Profiad anhygoel" Erin Mai yn y Junior Eurovision

03 Rhagfyr 2019

"Fe wnes i fwynhau bob eiliad!" Dyna oedd sylwadau Erin Mai, y ferch 13 oed o Lanrwst a gynrychiolodd Cymru yn y Junior Eurovision Song Contest.

Ar ôl ennill y gyfres deledu boblogaidd Chwilio am Seren Junior Eurovision yn gynharach eleni, cyrhaeddodd uchafbwynt ei thaith yn Gliwice, Gwlad Pŵyl, gyda chynulleidfa o filiynau ar hyd a lled Ewrop yn gwylio Erin yn perfformio ei chân, Calon yn Curo.

"Mae'r holl brofiad fel breuddwyd wedi dod yn wir. Nes i fyth meddwl faswn i ar lwyfan enfawr y Junior Eurovision" meddai Erin Mai, sy'n ddisgybl yn ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst.

"Mae'r holl beth yn anferth - y llwyfan, y colur, y gwallt, y golau a'r cannoedd o staff gefn llwyfan. Dwi'n teimlo mor lwcus i gael profiad fel hyn."

Teithiodd dros 30 o deulu a ffrindiau Erin Mai o Lanrwst i Wlad Pwyl i gefnogi Erin.

Gwlad Pwyl ddaeth i'r brig gyda Chymru'n cyrraedd y 18fed safle yn erbyn 19 o wledydd eraill Ewrop.

"Diolch o galon i bawb sydd wedi pleidleisio ac sydd wedi fy nghefnogi bob cam o'r ffordd. Wnâi byth anghofio'r profiad yma." meddai Erin.

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys S4C: "Mae'r gystadleuaeth hon wedi rhoi llwyfan rhyngwladol i Gymru ac i S4C.

"Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cynnig cyfle euraidd i seren ifanc gael disgleirio a chwifio baner Cymru a'r iaith Gymraeg o flaen cynulleidfa o filiynau ar hyd a lled Ewrop."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?