S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Colin Jackson yn neidio ar y cyfle i ddysgu Cymraeg

31 Ionawr 2020

Gyda medal Olympaidd yn ei feddiant, mae Colin Jackson wedi arfer a hyfforddi'n galed er mwyn cyrraedd yr uchelfannau.

Ond sut fydd pencampwr y byd gwibio a chlwydo yn delio gyda'r her o ddysgu Cymraeg?

Mae Colin, a gafodd ei fagu yng Nghaerdydd, wedi cael ei enwi fel y trydydd seleb i gymryd rhan yn gyfres newydd sbon ar S4C yng Ngwanwyn 2020 sef Iaith ar Daith.

Bydd Colin yn un o bump seleb - gan gynnwys Carol Vorderman a Ruth Jones - sy'n mynd ar daith i rannau gwahanol o Gymru gyda mentor adnabyddus sy'n gallu siarad Cymraeg, i geisio dysgu Cymraeg.

Yn achos Colin, y cyflwynydd teledu a radio Eleri Siôn yw'r mentor ac mae'r ddau yn ffilmio yn Aberystwyth a Chaerdydd dros y dyddiau nesaf.

Fel rhan o Iaith ar Daith, mae'n rhaid i bob un o'r selebs gyflawni nifer o sialensiau - ac un o rheini i Colin yw dangos ei fod yn gallu deall ac ymateb i gyfweliad yn y Gymraeg.

Bydd Colin, yn galw mewn yn stiwdios y BBC yn Aberystwyth ac yn westai arbennig ar sioe Ifan Jones Evans ar BBC Radio Cymru ar ddydd Llun, 3 Chwefror.

Yn siarad cyn y sialens, fe ddywedodd Colin:

"Dw i bach yn nerfus ac yn poeni braidd. Nerfau yw fy ngelyn pennaf! Dw i'n teimlo'n rhwystredig iawn os dw i methu dod o hyd i'r geiriau i fynegi fy hunan.

"Ond dw i'n gobeithio bydda i ac Eleri yn cael lot o hwyl. Dw i'n gobeithio bydd lot o chwerthin a bydd Eleri yn mwynhau'r profiad yn ogystal â helpu fi ar y daith.

Eleri Siôn yw mentor Colin ar gyfer y gyfres.

"Fe fydd hi'n atgoffa fi o'r pethau dw i wedi anghofio ac yn gwneud imi ail-adrodd pethau ac i wir gael teimlad o'r iaith."

Dywedodd Colin ei fod e eisiau dysgu Cymraeg oherwydd mae'n genfigennus o'i chwaer, yr actores Suzanne Packer, a'i gallu hi i siarad Cymraeg.

"Mae fy chwaer yn dysgu ac yn gwneud yn dda iawn. Dw i'n gweld bod siarad Cymraeg yn helpu hi gael perthynas mwy agos gyda Chymru.

Dw i'n teimlo bod y gallu gyda fi ond bydda i'n cymryd y peth yn ara' deg. Erbyn adeg yma blwyddyn nesa' fe fydda i'n rhugl!

"Mae gen i real chwant i ddysgu Cymraeg - dw i'n meddwl bod rhaid i chi wir eisiau gwneud e - mae'n rhywbeth sy' tu fewn i chi," meddai Colin.

A sut mae Colin yn teimlo am wneud y cyfweliad ar sioe Ifan Evans?

"Bydd yn teimlo fel y cyfweliad hiraf dw i erioed wedi gwneud!", medd Colin.

"Ond dwi'n edrych ymlaen. Cyn belled bod Ifan yn siarad yn araf a dyw'r cwestiynau dim yn rhy gymhleth bydda i'n iawn - fe wna i oroesi!"

Yn gynharach y mis yma, fe gyhoeddodd S4C bod y cyflwynydd Carol Vorderman a'r actores ac awdur Ruth Jones yn cymryd rhan yn Iaith ar Daith.

Carol Vorderman yn cyflwyno tywydd S4C fel rhan o Iaith ar Daith.

Un o dasgau Ruth oedd dysgu sgript a chael rhan ar yr opera sebon poblogaidd Pobol y Cwm a dydd Sul diwetha', cyflwynodd Carol y tywydd ar S4C.

Cadwch lygaid allan am fwy o newyddion ar Iaith ar Daith dros yr wythnosau nesaf pan fydd dau wyneb cyfarwydd arall yn cael eu datgelu ynghyd â'u mentoriaid.

Os fethoch chi ymddangosiad Ruth ar Pobol y Cwm ar ddydd Mawrth, Ionawr 21 gallwch chi ddal i fyny ar S4C Clic neu BBC iPlayer.

Mae Iaith ar Daith yn gynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C.

Noddir Iaith ar Daith gan dysgucymraeg.cymru. Am fwy o wybodaeth am gyrsiau Cymraeg, cyfleoedd i ymarfer eich Cymraeg ac adnoddau dysgu digidol rhad ac am ddim, ewch i dysgucymraeg.cymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?