S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Cyffro'r tymor wyna yn fyw ar S4C

21 Chwefror 2020

Yn wythnosol mae Meinir Howells i'w gweld ar S4C yn cyflwyno straeon am fyd amaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Ond pan nad yw'r gyflwynwraig 34 oed ar y sgrin, mae hi'n treulio ei hamser gyda'i theulu ifanc yn gofalu am y defaid a'r gwartheg ar fferm brysur y teulu ger Llandysul.

A nos Lun nesaf, 24 Chwefror mewn rhaglen arbennig o Ffermio, bydd cyfle i wylwyr ymuno yn fyw â Meinir yn ei sied ddefaid wrth iddi ofalu am rai cannoedd o ddefaid beichiog yn ystod un o adeg prysuraf y flwyddyn - y tymor wyna.

"Rwy'n ffodus iawn o gael cyfarfod ffermwyr ar hyd a lled y wlad fel rhan o dîm cyflwyno Ffermio,' meddai Meinir sy'n amaethu mewn partneriaeth a'i gwr Gari.

"Ond y tro ma, mae cyfle i wylwyr S4C ddod i'n fferm ni, lle bydd hi siŵr o fod yn fishi iawn.'

Magwyd Meinir ar fferm ei rhieni ger Llandeilo, cyn adeiladu gyrfa ym myd amaeth a hynny ar y sgrin, ac oddi arni.

Yn fridiwr defaid Balwen llwyddiannus, cyfarfu a'i gwr Gari mewn arwerthiant defaid cyn priodi yn 2014 .

Bellach mae gan y cwpl ddau o blant, Sioned sy'n dair oed a Dafydd sy'n flwydd, diadell o 600 o ddefaid magu pedigri o amrywiol fridiau yn ogystal a gwartheg magu.

Chwefror a Mawrth yw cyfnodau prysuraf y fferm wrth i'r wyn a'r lloi bach gael eu geni, ac yn y rhaglen arbennig bydd cyfle i'r gwylwyr weld wyn yn cael eu geni, a'r gofal sydd dros y ddiadell.

"Mae bron popeth fydd yn cael ei eni rwan ar y fferm ar gyfer y farchnad fridio,' esboniodd Meinir.

"Ni wedi creu marchnad i ni'n hunain o fewn y gadwyn fridio, ac yn gwerthu hyrddod a gwartheg magu – mae'n rhan bwysig o systemau cynhyrchu bwyd ym Mhrydain ac yn rhyngwladol,' meddai.

Yn ymuno â Meinir ar y noson bydd ei chyd gyflwynwyr, Daloni Metcalfe ac Alun Elidyr yn ogystal a gwesteion eraill.

Fe fydd y rhaglen arbennig yn nodi amser newydd Ffermio am 9 o'r gloch wrth i Newyddion nosweithiol S4C symud i 7.30 yr hwyr.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?