S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C Clic yn bwrw’r 100,000!

26 Chwefror 2020

Mae S4C yn dathlu wrth i'w gwasanaeth ar alw S4C Clic gyrraedd 100,000 o danysgrifwyr mewn ychydig dros chwe mis.

Mae datblygu gwasanaeth tanysgrifio S4C Clic wedi galluogi'r sianel i gyfathrebu un wrth un â gwylwyr ac fel canlyniad, dod i ddeall anghenion gwylwyr yn well a chynnig gwasanaeth mwy cyflawn.

Dros y misoedd diwethaf mae S4C wedi bod yn ychwanegu at Clic ac wedi ei thrawsnewid o fod yn lle i wylwyr ddal i fyny gyda rhaglenni, mewn i hafan sydd yn cynnig cynnwys ecscliwsif.

Mae hyn yn cynnwys bocs sets, dramâu ecscliwsif a chynnwys penodol i ddysgwyr ac i blant a phobl ifanc.

Meddai Prif Weithredwr S4C Owen Evans: "Mae hyn i gyd yn rhan o'n gwaith i bersonoleiddo ac ehangu ein gwasanaeth. Dw i eisiau ein bod ni fel sianel yn gallu cysylltu un wrth un gydag ein cynulleidfa ac ein bod ni'n eu deall a'u galluogi nhw i wylio yn gwmws beth maen nhw eisiau."

Yn ogystal â chael mynediad at gynnwys unigryw, trwy S4C Clic mae modd i ddefnyddwyr greu proffiliau ar gyfer y teulu a chreu rhestr bersonol o raglenni ac i dderbyn e-byst er mwyn bod ymysg y cyntaf i glywed am ddatblygiadau a rhaglenni newydd.

Cafodd y cynllun tanysgrifio ei lansio yn ystod Eisteddfod yr Urdd eleni, ac mae Mr Evans yn synnu ar ba mor gyflym mae Clic wedi cyrraedd y 100,000.

"Rydym yn falch iawn bod cymaint o wylwyr S4C wedi tanysgrifio i'r gwasanaeth Clic ac mae'r ffaith ein bod ni wedi cyrraedd 100,000 o wylwyr mewn cyfnod mor fyr yn syndod mawr i ni - ond yn newyddion da iawn.

"Mae'r niferoedd yn dangos bod S4C Clic yn lle mae pobl eisiau mynd i wylio rhaglenni a chyfresi S4C."

Yn ôl Mr Evans, mae datblygu S4C Clic yn rhan annatod o strategaeth ddigidol y sianel. "Fe fyddwn yn parhau i ddatblygu Clic ar gyfer y dyfodol a chynnig gwasanaeth heb ei hail i'n gwylwyr traddodiadol yn ogystal â gwylwyr newydd i'r sianel," meddai Mr Evans.

Gallwch ddarganfod mwy am wasanaeth S4C Clic a phori'r dewis eang o gyfresi newyddion, drama, comedi a mwy trwy ymweld â'r wefan a chofrestru - www.s4c.cymru/clic.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?