S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn uno gyda darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi gweithwyr llawrydd

25 Mawrth 2020

Mae S4C wedi uno gyda BBC, ITV, Channel 4 a Channel 5 i bwyso ar y Llywodraeth i weithio gyda darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi gweithwyr llawrydd sy'n gweithio yn y diwydiant darlledu yn ystod y cyfnod ansicr hwn.

"Mewn llythyr ar y cyd at y Canghellor wedi'i lofnodi gan yr holl ddarlledwyr, rydym yn tynnu sylw at werth y gweithwyr llawrydd i lwyddiant Diwydiannau Creadigol y DU ac yn annog y Llywodraeth '… i ddarparu pecyn o gefnogaeth i weithwyr llawrydd'.

Yn rhan o'r llythyr hefyd mae'r holl ddarlledwyr yn cynnig gweithio gyda'r Llywodraeth i gynorthwyo i lunio pecyn o fesurau a fyddai'n darparu lefel o ddiogelwch incwm a mynediad at dâl salwch statudol i'r gymuned lawrydd.

Mae'r llythyr wedi ei anfon heddiw a'i arwyddo gan Owen Evans Tony Hall, Carolyn McCall, Alex Mahon, Maria Kyriacou.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?