S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Lle hoffech chi fod? S4C yn lansio cefndiroedd Zoom

9 Ebrill 2020

Soffa enwog Priodas Pum Mil, ar set Oci Oci Oci , gyda Gareth yr Orangutan neu'n gorwedd gyda Maggi Noggi yn ei gwely a brecwast glam!

Mae S4C wedi lansio cyfres o gefndiroedd y gall pobl eu defnyddio ar gyfer defnydd cyfarfodydd Zoom.

Gyda phobl o bob oed bellach yn gorfod defnyddio technoleg i gyfathrebu gyda ffrindiau a theuluoedd mae cyfarfodydd dros y we wedi dod yn rhywbeth cyfarwydd iawn i lawer.

Nawr, mae S4C yn rhoi'r cyfle i chi guddio llanast y tŷ gyda un o gefndiroedd adnabyddus y sianel.

Mae digonedd o ddewis gan gynnwys cefndiroedd o raglen Sgorio, soffa felen Heno, Deian a Loli, Hansh, Rownd a Rownd i enwi dim ond ychydig. Gall gwylwyr ddewis ymhlith eu hoff raglenni.

Mae modd lawrlwytho rhain oddi ar safle Facebook S4C neu wefan S4C.

http://www.s4c.cymru/cy/zoom/

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?