S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newyddiadurwyr digidol S4C yn dod a’r diweddaraf ar sefyllfa Covid-19

27 Ebrill 2020

A hithau'n gyfnod ansicr a heriol wrth i ni brofi effeithiau'r pandemig Covid-19, mae'r awydd i gael y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf ar unwaith, ar glic botwm yn fwy nag erioed. Ac mae mwy a mwy yn troi at y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y penawdau.

Yn sgîl hyn, mae dau newyddiadurwr digidol – Siôn Tootill a Tomos Evans - wedi ymuno ag S4C am gyfnod o dri mis. Byddan nhw'n darparu gwasanaeth newyddion sy'n ymateb i'r pandemig ar dudalen Facebook a Twitter Newyddion S4C, gan gyhoeddi clipiau o gynadleddau'r llywodraeth, ystadegau achosion a marwolaethau, a chlipio pecynnau perthnasol o'r rhaglenni newyddion. Bydd y gwasanaeth yn datblygu wrth iddo fynd yn ei flaen.

Myfyriwr Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd yw Tomos Evans, sy'n 21 oed ac yn dod yn wreiddiol o Hwlffordd, sir Benfro, ac mae e'n edrych ymlaen at yr her:

"Dwi'n hynod o gyffrous i ymuno â thîm S4C mewn cyfnod lle mae'n bwysicach nag erioed i dderbyn newyddion o ffynonellau dibenadwy" meddai Tomos.

Meddai Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C:

"Rydym ni'n gweld yr angen a'r awch am newyddion yn ystod y cyfnod yma yn fwy nag erioed, gyda'r gynulleidfa'n chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf am argyfwng Covid-19. Wrth i straeon dorri drwy gydol y dydd, mae pobl yn awyddus i gael y wybodaeth yma'n syth. Rydym wedi gweld felly bod gwir angen i ddatblygu gwasanaeth newyddion digidol i roi'r newyddion i bobl fel mae'n digwydd, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg."

Siôn Tootill

Mae Siôn Tootill sy'n 22 oed yn wreiddiol o Lanelli yn fyfyriwr ôl-radd, yn astudio cwrs MA mewn Newyddiaduraeth Darlledu yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ym Mhrifysgol Caerdydd. Yntau hefyd oedd enillydd Ysgoloriaeth T Glynne Davies ar gyfer 2019-20, sef ysgoloriaeth newyddiadurol a noddir gan S4C.

Meddai Siôn: 'Mae'r cyfle i weithio gyda thîm S4C yn un cyffrous, yn enwedig ar y tîm newyddion mewn cyfnod mor wahanol i'r arfer. Mae newyddion cywir a dibynadwy yn hynod o bwysig a dwi'n teimlo anrhydedd fy mod yn gallu cyfrannu i hynny.'

Tomos Evans

Myfyriwr Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd yw Tomos Evans, sy'n 21 oed ac yn dod yn wreiddiol o Hwlffordd, sir Benfro, ac mae e'n edrych ymlaen at yr her:

"Dwi'n hynod o gyffrous i ymuno â thîm S4C mewn cyfnod lle mae'n bwysicach nag erioed i dderbyn newyddion o ffynonellau dibenadwy" meddai Tomos.

Meddai Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C:

"Rydym ni'n gweld yr angen a'r awch am newyddion yn ystod y cyfnod yma yn fwy nag erioed, gyda'r gynulleidfa'n chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf am argyfwng Covid-19. Wrth i straeon dorri drwy gydol y dydd, mae pobl yn awyddus i gael y wybodaeth yma'n syth. Rydym wedi gweld felly bod gwir angen i ddatblygu gwasanaeth newyddion digidol i roi'r newyddion i bobl fel mae'n digwydd, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?