S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Perfformiad teimladwy o Calon Lân yn denu 180,000 o sesiynau gwylio

07 Mai 2020

Mae perfformiad o'r emyn enwog Calon Lân gan gôr digidol wedi ei ffurfio gan y tenor Rhys Meirion wedi denu dros 180,000 o sesiynau gwylio ar Facebook.

Cafodd y côr o dros 130 o bobl, oedd yn cynnwys aelodau ledled Cymru a chyn belled ag Awstralia, ei ffurfio ar gyfer y rhaglen arbennig ar S4C, Côr Digidol Rhys Meirion.

Ysgrifennwyd Calon Lân yn wreiddiol yn yr 1890au, gyda geiriau gan Daniel James a'r dôn gan John Hughes, ond mae bellach yn cael ei hadnabod fel anthem rygbi Cymru.

Yn ogystal â pherfformio'r geiriau i'r gerddoriaeth wreiddiol, perfformiwyd penillion eraill yr emyn eiconig i gymysgedd o alawon, gan gynnwys Pishyn Pishyn a Deio Bach.

Roedd Rhys, a anwyd yn Blaenau Ffestiniog ond sydd bellach yn byw ym Mhwll-glas, ger Rhuthun, yng nghanol ffilmio'r drydedd gyfres o Corau Rhys Meirion pan ddaeth y 'lockdown' i rym.

Meddai Rhys: "Roeddem ynghanol ffilmio côr o drigolion Awel y Coleg a phobl ifanc leol yn y Bala a oedd yn ymwneud â phontio'r cenedlaethau pan orfodwyd i bethau ddod i stop. Roedd rhaid i ni feddwl beth oeddem ni am ei wneud nesa', gan nad oedd dod â chôr at ei gilydd am fod yn opsiwn."

Cafodd y syniad i ffurfio côr digidol ei ysbrydoli gan y grŵp Facebook Côr-Ona o dan arweiniad y gantores o Ynys Môn, Catrin Angharad Jones.

Sefydlwyd y grŵp i ganiatáu pobl i ganu a rhannu eu hoff ganeuon ac emynau, ac i helpu pobl sy'n teimlo'n unig yn ystod y cyfnod hunan-ynysu yn sgil y pandemig Covid-19. Mae wedi troi'n ffenomen ar-lein gan ddenu dros 40,000 o aelodau ers ei ffurfio ar Fawrth 17.

Ychwanegodd Rhys: "Gwelsom fod Catrin Toffoc wedi creu'r grŵp Côr-Ona, a'i fod wedi cael dilyniant enfawr o fwy na 46,000 o aelodau yn gyflym iawn. Roeddem yn credu y byddai côr digidol yn gweithio'n dda, ac felly mi nes i gysylltu â Catrin.

"Mae'r côr wedi dangos pŵer cerddoriaeth a sut mae canu gyda'n gilydd mor bwysig i genedl Cymru. Roedd yr aelodau'n brawf bod pobl yn dal i fod eisiau cerddoriaeth ynghanol hyn a thrwy ryfeddodau technoleg roeddem yn gallu ei wneud.

"Dwi wedi fy syfrdanu gan yr ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol i fideo Calon Lân. Mae gweld ei fod wedi cael mwy na 180,000 o sesiynau gwylio yn anhygoel."

Comisiynwyd Côr Digidol Rhys Meirion yn ymateb i'r argyfwng coronafirws gan Gomisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, Elen Rhys.

Meddai Elen: "Mae'r ymateb cadarnhaol rydyn ni wedi'i weld i berfformiad Calon Lân wedi bod yn rhyfeddol. Mae'n profi y gall cerddoriaeth ddod â ni i gyd at ein gilydd er ein bod ni i gyd ar wahân.

"Mae'n wir mai Cymru yw Gwlad y Gân, ac rydym yn falch iawn bod y perfformiad wedi cyrraedd cynulleidfa mor eang. Gyda gwên ar ein hwyneb a chân yn ein calon, gallwn gefnogi ein gilydd trwy'r argyfwng."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?