S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Super Rugby yn dod i S4C

8 Mehefin 2020

Mae Super Rugby yn dod i S4C.

O Fehefin 13, bydd rhai o chwaraewyr rygbi gorau'r byd yn dychwelyd i'r maes wrth i bum tîm proffesiynol Seland Newydd - Blues, Hurricanes, Crusaders, Highlanders a chlwb Warren Gatland, Chiefs - gymryd rhan yng nghystadleuaeth Super Rugby Aotearoa.

Bydd y pum tîm chwarae yn erbyn ei gilydd, cartref ac oddi gartref, dros 10 wythnos, gyda dwy gêm yn cael ei chwarae bob penwythnos.

Drwy gydol y bencampwriaeth, mi fydd Clwb Rygbi yn dangos rhaglen uchafbwyntiau estynedig o'r ddwy gêm bob penwythnos, ar ôl i S4C ddod i gytundeb gyda darlledwr y gystadleuaeth yn y Deyrnas Unedig, Sky Sports.

Bydd y rhaglenni uchafbwyntiau yn cychwyn ar Ddydd Sul 14 Mehefin am 10.00pm, gyda sylwebaeth Saesneg hefyd ar gael drwy'r gwasanaeth botwm coch. Bydd y rhaglenni ar gael i'w wylio ar alw ar S4C Clic yn dilyn pob darllediad.

Dywedodd Gareth Rhys Owen, Cyflwynydd Clwb Rygbi: "Mae'n bleser mawr i ddangos uchafbwyntiau o'r gynghrair sydd yn arwain y gad yn y byd rygbi.

"Mae'r brand o rygbi sy'n cael ei chwarae yn Super Rugby yn gyffrous tu hwnt, a llawn tempo a sgiliau gwych, fyddai'n apelio nid yn unig i gefnogwyr rygbi, ond i unrhyw un sy'n hoffi chwaraeon.

Blues, Hurricanes, Crusaders, Highlanders a chlwb Warren Gatland, Chiefs, sydd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Super Rugby Aotearoa.

"Mae sêr fel Beauden Barrett a Rieko Ioane yna, mae Dan Carter yn ôl, mae Warren Gatland yn hyfforddi'r Chiefs ac mae Mark Jones yn hyfforddi'r Crusaders, felly mae sawl wyneb cyfarwydd ar y cae ac oddi arno i wylwyr yng Nghymru.

"Ond hefyd mi gawn weld y sêr y dyfodol yn y byd rygbi, oherwydd mae'r dalent yn Seland Newydd yn aruthrol.

"Mae'r ffaith bod 'da ni'r platfform yma i ddangos rhaglenni uchafbwyntiau sylweddol yn newyddion gwych. Dw i methu aros."

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Tra ein bod ni'n disgwyl i rygbi ail-ddechrau gartref, rydym wrth ein boddau i gyhoeddi y bydd S4C yn dangos yr unig gystadleuaeth rygbi undeb sy'n cael ei chwarae yn y byd ar hyn o bryd.

"Rydw i'n gobeithio y bydd cefnogwyr rygbi yn mwynhau gwylio timau arbennig Seland Newydd yn herio'i gilydd yn y gystadleuaeth newydd a hynod gyffrous yma."

DIWEDD

Clwb Rygbi: Super Rugby Aotearoa

Nos Sul 14 Mehefin, 10.00pm

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?