S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Caru Canu mewn Cernyweg

25 Mehefin 2020

Mae cyfres boblogaidd Caru Canu ar S4C yn cael ei darlledu yr wythnos hon mewn Cernyweg.

Mae'r gyfres o ganeuon animeiddiedig i blant yn cael eu lansio fel rhan o Wythnos Dathlu Cernyweg gyda'r bwriad o helpu plant i ganu ac odli yng Nghernyweg.

Bydd y gyfres hon o bum cân animeiddiedig yn mynd yn fyw ar sianel ffrydio Tyskennow Kernow ddydd Iau 25 Mehefin dan y teitl Kara Kana.

Wedi'i chomisiynu trwy Screen Cornwall gyda chefnogaeth Cyngor Cernyw a MHCLG, mae'r gyfres gan gwmni cynhyrchu Penzance, Bosena, wedi'i chyfieithu i Gernyweg o gyfres Gymraeg wreiddiol a wnaed gan Gynyrchiadau Twt ar gyfer gwasanaeth meithrin S4C Cyw.

Recordiwyd y lleisiau Cernyw gan y perfformiwr Cernyw aml-dalentog Bec Applebee yn Stiwdio Recordio Cube yn Silverwell.

Meddai cynhyrchydd y gyfres Siwan Jobbins:" Gyda pherthynas mor agos rhwng yr iaith Cernyweg a Chymraeg, dwi'n tu hwnt o gyffrous i gael gwybod sut bydd rhai o ganeuon meithrin a hwiangerddi mwyaf poblogaidd plant bach Cymru'n swnio mewn Cymraeg.

"Dwi'n gobeithio y caiff plant bach Cernyw cymaint o bleser yn gwrando arnyn nhw â phlant Cymru."

Dywed Denzil Monk, Prif Swyddog Gweithredol Bosena, "Mae plant bach wrth eu bodd yn canu gyda theulu a ffrindiau, felly mae'r gyfres Kara Kana nawr yn gallu cynnig cyfle i blant (a dysgwyr iaith Cernyweg) wylio a chanu ynghyd â hwiangerddi traddodiadol a chyfoes mewn Cernyweg.

"Yr wythnos hon rydym yn rhyddhau'r pum cân gyntaf, ac os daw cyllid ar gael, rydym yn gobeithio trwyddedu fersiwn ar gyfer cynulleidfaoedd Cernyw a rhyddhau mwy o'r caneuon animeiddiedig addysgol hwyliog hyfryd hyn gan gynyrchiadau Twt o Gymru. "

Mae'r gyfres ar gael o ddydd Iau 25ain Mehefin a gellir ei gwylio mewn Cernyweg, gydag isdeitlau dewisol Saesneg, ar sianel diwylliant sgrin Cernyw Tyskennow Kernow: https://vimeo.com/showcase/tk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?