S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Golygfeydd cyffrous wrth ail-ddechrau ffilmio Un Bore Mercher

20 Gorffennaf 2020

Bydd dilynwyr drama yn falch o wybod fod gwaith wedi ail-ddechrau ar ffilmio'r gyfres olaf o Un Bore Mercher / Keeping Faith.

Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C:

"Ar ôl gorfod rhoi'r gorau i ffilmio'r drydydd gyfres mor sydyn nôl ym Mis Mawrth, mae'r cast a'r criw yn gyffrous iawn i ail-gydio yn y gwaith.

"Roeddynt ar fin dechrau saethu o flaen golygfeydd eiconig Talacharn pan ddaeth y cyfnod cloi a rhoi stop ar bopeth.

"Bydd Vox Pictures, sy'n cynhyrchu'r gyfres ar ein rhan ni a BBC Cymru Wales, yn dilyn yr holl ganllawiau, deddfwriaeth a phrotocolau mae Llywodraeth Cymru wedi'i gosod i sicrhau fod y gwaith yn parhau mewn ffordd ddiogel.

"Mae'r byd ffilm a teledu wedi teimlo cryn ergyd yn sgîl Covid-19, ac fel nifer o ddiwydiannau eraill mae wedi profi cyfnod ansicr iawn.

"Bu'n rhaid i nifer o gynyrchiadau stopio'r camerau yn ddisymwth ar ôl misoedd o waith cynllunio a pharatoi oddi ar y set, felly mae'n braf cael y golau gwyrdd i fynd ati eto."

Nawr fod ffordd saff o weithio wedi'i osod allan, gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at gyfres gyffrous arall gydag Eve Myles yn dychwelyd fel Faith Howells, Bradley Freegard fel Evan Howells a Mark Lewis Jones fel Steve Baldini.

"Rydym yn edrych ymlaen i Un Bore Mercher fwrw'r sgrin eto cyn diwedd y flwyddyn, a hynny am y tro olaf wrth gwrs" ychwanegodd Gwenllian.

"Roedd cymaint o bethau'n ben agored ar ddiwedd yr ail-gyfres, rwy'n siwr fod pawb ar bigau'r drain i ddarganfod beth fydd ffawd Faith a'i theulu ar ddiweddglo'r gyfres."

Dywedodd Maggie Russell, y Cynhyrchydd Gweithredol ar ran BBC Cymru:

"Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i bawb am eu gwaith caled i fynd yn ôl i gynhyrchu Keeping Faith, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at rannu'r gyfres gyda'r gwylwyr yn gynnar y flwyddyn nesaf."

Datblygwyd Un Bore Mercher / Keeping Faith yn wreiddiol gan S4C.

Cynhyrchir gan Vox Pictures ar gyfer S4C a BBC mewn cydweithrediad ag Acorn Media, APC â Nevision gyda chefnogaeth gan Busnes Cymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?