S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiad Gwobr Werdd i ddrama o Bort Talbot

26 Awst 2020

Mae drama S4C, Bang, wedi ei henwebu am Wobr Werdd yng Ngwobrau Teledu Caeredin.

Mae'r categori, sy'n newydd yng ngwobrau 2020, yn gwobrwyo cynhyrchwyr, sianeli, platfformau neu fudiadau sydd wedi pledio dros gynaliadwyedd yn y diwydiant.

Ffilmiwyd y ddrama, sy'n gynhyrchiad gan gwmni teledu Joio, yn nhref ddiwydiannol Port Talbot. Darlledwyd ail gyfres Bang ar S4C yng Ngwanwyn 2020, yn dilyn y gyfres gyntaf a gafodd ei darlledu ar S4C yn 2017.

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:

"Rydym yn arbennig o falch fod Bang wedi ei henwebu ar gyfer y wobr yma. Mae'r Wobr Werdd yn wobr arwyddocaol wrth i ni anelu tuag at weithio'n fwy cynaliadwy gyda chynhyrchwyr yn y dyfodol. Mae dyletswydd ar bob un ohonom ni i wneud ein rhan a lleihau ein ôl troed carbon, ac mae'r wobr yma yn ddathlu ymdrechion y diwydiant."

Cymerodd gwmni cynhyrchu Joio sawl cam i geisio gweithio'n fwy cynaliadwy yn ystod y cynhyrchiad. Dewisodd Joio adeilad gwag ym Mhort Talbot fel lleoliad cynhyrchu, oedd yn agos at orsaf drenau a bysiau'r dref, er mwyn hwyluso'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y set.

Cafodd yr adeilad hwnnw ei ddefnyddio fel canolbwynt y cynhyrchiad, gan drawsnewid y coridorau a'r stafelloedd fel set ffilmio. Cafodd rhan fwyaf o wisgoedd y cynhyrchiad eu prynu'n ail-law, neu eu llogi, ac mi gafodd y deunyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu'r set eu hailgylchu ar ddiwedd y cynhyrchiad.

Ymhlith hyn a nifer o ymdrechion eraill, mi lwyddodd Joio i gadw ôl troed carbon isel yn ystod cynhyrchiad cyfres 2 Bang. Yn ogystal, enillodd Bang dystysgrif Cynhyrchiad Cynaliadwy yn gynharach eleni gan fudiad Albert, corff sy'n hyrwyddo'r diwydiant teledu a ffilm i weithredu mewn modd mwy cynaliadwy i'r amgylchedd.

Dywedodd Roger Williams, awdur a chynhyrchydd Bang:

"Rydym yn falch iawn o'r enwebiad hwn. Ceisiodd y tîm weithio mewn ffordd gynaliadwy a chyfrifol o'r cychwyn cyntaf. Wrth fynd ati i saethu'r gyfres gosodwyd cynsail ar gyfer lleihau ein hôl carbon ni. Mae'n braf bod ein hymdrechion yn cael eu cydnabod mewn seremoni wobrau glodwiw megis Caeredin."

Daeth y cyhoeddiad yng Ngŵyl Deledu Caeredin nos Fawrth, 25 Awst, wrth iddynt gyhoeddi rhestrau byrion y gwobrau. Mi fydd seremoni Gwobrau Teledu Caeredin yn cael ei chynnal yn hwyrach eleni.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?