S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwyliwch ymweliad Cymru â Wembley yn fyw ar S4C

23 Medi 2020

Bydd y gêm bêl-droed rhyngwladol rhwng Lloegr a Chymru fis nesaf yn cael ei dangos yn fyw ar S4C.

Gyda dwy gêm yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA wedi eu trefnu yn ystod mis Hydref, fe fydd tîm Ryan Giggs yn paratoi drwy herio Lloegr mewn gêm gyfeillgar yn Wembley ar nos Iau 8 Hydref. Bydd criw Sgorio yn darlledu'r cyfan yn fyw am 7.30pm, gyda'r gic gyntaf am 8.00pm.

Yna, bydd Cymru yn wynebu dwy gêm oddi cartref olynol yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA, yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar ddydd Sul 11 Hydref, ac yn erbyn Bwlgaria ar nos Fercher 14 Hydref. Bydd y ddwy gêm yma hefyd i'w gweld yn fyw ar S4C, wrth i'r darlledwr ddangos pob un o gemau Cymru yn y gystadleuaeth yn fyw.

Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Bydd y gêm hon yn bennod newydd mewn cyfrol bêl-droed rhwng dwy genedl sy'n ymestyn dros amser maith ac rydym yn falch iawn ein bod ni'n dangos y gêm yma yn yr iaith Gymraeg ar gyfer holl gefnogwyr Cymru."

Dyma fydd y tro gyntaf i Gymru ymweld â Wembley ers Medi 2011, pan enillodd y Saeson o gôl i ddim.

Y tro diwethaf i'r ddau dîm gwrdd, Lloegr oedd y tîm buddugol gan ennill o ddwy gôl i un yn Lens, mewn gêm ym Mhencampwriaeth Euro 2016. Ond wedi'r golled hwnnw, fe aeth Cymru ymlaen i ennill y grŵp a chyrraedd y rowndiau cyn-derfynol, yn colli 2-0 yn erbyn y pencampwyr, Portiwgal, tra bod Lloegr wedi gadael y gystadleuaeth yn rownd yr 16 olaf gyda cholled 2-1 yn erbyn Gwlad yr Iâ.

Ymunwch â Dylan Ebenezer a chriw Sgorio ar gyfer darllediad byw o'r gêm, a'r holl ddadansoddi ac ymateb, am 7.30pm ar nos Iau 8 Hydref.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?