S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​S4C yn lansio arolwg i gasglu barn y cyhoedd am y sianel

14 Rhagfyr 2020

Fel rhan o strategaeth newydd S4C i roi y gwylwyr wrth galon eu gwasanaethau, mae'r sianel wedi comisiynu Strategic Research and Insight i gasglu barn y cyhoedd.

Bydd cwmni ymchwil a dadansoddi Strategic Research and Insight sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd yn holi amrywiaeth o wylwyr, a rhai sydd ddim yn gwylio S4C ynghylch eu barn am y sianel. Beth mae nhw'n hoffi, beth dydyn nhw ddim? Beth arall ddylai S4C fod yn ei wneud, beth na ddylai'r sianel fod yn ei wneud?

Bydd y gwaith casglu barn yn digwydd ar ffurf amrywiaeth o grwpiau trafod yn rhithiol ar draws Zoom, felly bydd modd lleisio barn heb adael y tŷ.

Bydd S4C yn defnyddio'r wybodaeth ar gyfer cyflwyno tystiolaeth i Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth Prydain fel rhan o drafodaeth dros setliad ariannol S4C o Ebrill 2022 ymlaen. Yn ychwanegol bydd y sianel yn defnyddio'r wybodaeth i ddatblygu gwasanaethau a chomisiynau S4C dros y 5 mlynedd nesaf.

Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C:

"Er mwyn dod i adnabod ein cynulleidfa a deall eu patrymau gwylio yn well, mae'n rhaid i ni sicrhau fod siarad gyda'n gwylwyr a gwrando ar eu barn yn un o'n prif flaenoriaethau. Mae gen i ddiddordeb gwirioneddol mewn dod i ddeall pam na fyddai rhywun eisiau gwylio S4C a pha fath o gynnwys sydd angen i ni greu er mwyn denu cynulleidfaoedd newydd. Bydd y gwaith pwysig hwn yn llywio ein strategaeth i'r dyfodol ac yn ein hysbrydoli i gynllunio ein rhaglenni er mwyn targedu a denu gwylwyr newydd."

Yn ychwanegol i'r grwpiau trafod, bydd S4C yn paratoi holiadur er mwyn cael barn grŵp ehangach o wylwyr. Os ydych yn dymuno cyfrannu, cysylltwch â gwifren@s4c.cymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?