13 Ionawr 2021
Bydd cyfres newydd o Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dychwelyd i S4C ddydd Sul yma (17 Ionawr), a hynny mewn ymateb i'r cyfnod clo diweddaraf.
Darlledir yr oedfa bob bore Sul am 11.00, a'r emynau'n cael eu dewis o archif Dechrau Canu Dechrau Canmol.
Bydd y gwasanaeth cyntaf dan ofal y Parchedig Evan Morgan o Gapel Salem, Treganna wrth iddo edrych ar obeithion y flwyddyn newydd.
Meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol S4C:
"Dan ni'n gwybod bod nifer fawr o'n capeli ac eglwysi wedi gorfod cadw eu drysau ynghau dros y pandemig, a'r addoldai sydd wedi aros yn agored wedi cyfyngu ar y nifer o bobl sy'n cael mynychu.
"Mae Oedfa Dechrau Canu Dechrau Canmol felly yn ffordd effeithiol iawn i addolwyr ddod at ei gilydd yn un cynulleidfa fawr ar fore Sul.
"Fel y gwelsom o'r ymateb arbennig a gawsom i'r gyfres gyntaf, mae'n cynnig cwmnïaeth, cysur a gobaith i filoedd o bobl ac mae'n braf iawn gallu ateb y galw."