S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn ymateb i’r sefyllfa yn Wcráin

4 Mawrth 2022

Er mwyn adlewyrchu'r sefyllfa sy'n datblygu'n gyflym yn Wcráin mae S4C wedi comisiynu nifer o raglenni ar fyr rybudd.

Nos Lun 7 Mawrth am 20:00 bydd adroddiad arbennig o'r Byd ar Bedwar gydag Iolo ap Dafydd yn teithio i Wlad Pwyl i glywed am brofiadau rhai o'r miloedd sydd wedi gorfod ffoi o Wcráin

Nos Fercher 9 Mawrth am 20:00 bydd Betsan Powys yn cyflwyno rhifyn arbennig Pawb a'i Farn.

Bydd cerdd wedi ei chomisiynu yn arbennig gan Mererid Hopwood yn cael ei chyhoeddi ar bob llwyfan S4C yn ystod yr wythnos.

Nos Sul 13 Mawrth bydd rhifyn estynedig o Dechrau Canu Dechrau Canmol o'r Deml Heddwch yng Nghaerdydd.

Bydd S4C yn darlledu cyngerdd codi arian ar gyfer Wcráin yn fyw nos Sadwrn, Ebrill 2il.

Darlledwyd apêl Pwyllgor Argyfyngau DEC ar gyfer Wcráin ar S4C [nos Iau] ac mae'n parhau ar gael ar S4C Clic.

Ac wrth gwrs bydd Newyddion S4C yn nosweithiol a'r gwasanaeth Newyddion Digidol yn parhau i roi sylw blaenllaw a chyson i'r diweddara o Wcráin

Dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C "Mae llygaid y byd ar Wcráin. Mae'n bwysig felly fod S4C yn adlewyrchu'r hyn sydd yn digwydd yno, yr hyn mae gwleidyddion Cymru a Phrydain yn ei wneud, a'r ymateb i'r digwyddiadau ar lawr gwlad yng Nghymru. Wrth i'r sefyllfa ddatblygu, bydd ein harlwy ni yn esblygu i adlewyrchu hynny hefyd."

Sancsiynau

Yn sgil yr ymosodiad ar Wcráin, a'r sancsiynau rhyngwladol sydd wedi eu gosod ar Rwsia, mae S4C yn torri pob cysylltiad â Rwsia.

Mae'r sianel yn gofyn i'r holl gwmnïau sy'n gwerthu a thrwyddedu rhaglenni ar ei rhan i atal unrhyw gysylltiad pellach. Mae S4C hefyd yn ymchwilio i fuddsoddiadau gan S4C Masnachol i sicrhau nad oes cysylltiad a Rwsia. Yn ogystal mae'r sianel yn annog yr holl gwmnïau sy'n darparu cynnwys ar ei chyfer i atal unrhyw gysylltiad neu ymwneud pellach gyda Rwsia.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?