S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ymateb S4C i gyhoeddiad hawliau darlledu gemau pêl-droed Cymru o 2024

28 Ebrill 2022

Mae S4C yn gefnogwr balch ac angerddol o bêl-droed Cymru.

Ers 2014, mae S4C wedi dangos pob gêm tîm cenedlaethol Cymru; o Stadiwm Dinas Caerdydd, i Ffrainc ac Azerbaijan (sawl tro), i America a Tsieina, ry'n ni wedi dilyn y tîm ar draws y byd.

Dros y blynyddoedd, mae S4C a Sgorio hefyd wedi dangos gemau timau cenedlaethol merched ac ieuenctid, yn ogystal â darpariaeth gynhwysfawr o byramid pêl-droed Cymru.

Mae S4C yn rhan o'r Wal Goch ac mae'r Wal Goch yn rhan ohonom ni, ac mae'r gefnogaeth ac angerdd mae cefnogwyr Cymru wedi dangos dros y dyddiau diwethaf yn adlewyrchu hynny.

Mae'r bartneriaeth rhwng S4C a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod, ac yn parhau i fod yn fuddiol iawn i bêl-droed yng Nghymru gyfan.

Mae S4C yn trafod gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru er mwyn cadarnhau'r sefyllfa o ran sylwebaeth Gymraeg ar gemau Cymru yn y dyfodol.

Gyda'r tîm yn un gêm i ffwrdd o gyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar, rydyn ni'n edrych ymlaen at ail ymuno â'r Wal Goch eto ar y 5ed o Fehefin.

Ry'n ni yma o hyd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?