S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Côr yr Urdd a chymdeithas Alabama yn uno mewn harmoni

25 Mai 2022

Gyda phrin ychydig ddyddiau cyn Eisteddfod yr Urdd Sir Dinbych, bydd rhaglen arbennig ar S4C yn tynnu sylw at waith yr Urdd ar lwyfan cenedlaethol.

Yn Cymru, Alabama a'r Urdd, fydd ymlaen nos Wener am 9.00, ymunwn â chriw o bobl ifanc dawnus sydd â chyfle unigryw i ddefnyddio eu lleisiau i atgyfnerthu cysylltiad trawsatlantig hanesyddol.

Sefydlwyd Côr yr Urdd, sef rhai o enillwyr Eisteddfod T y llynedd, fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Urdd.

Dros y Pasg, trefnwyd i'r criw deithio a pherfformio mewn cyngerdd arbennig gyda chôr gospel Prifysgol Birmingham, Alabama - ar ôl gweithdy gydag un o'r goreuon ym myd gospel, Reginald James Jackson.

Meddai Reginald: "Rydw i eisiau iddyn nhw fynd yn ôl i Gymru gyda'r profiad hwn – profiad hwyliog, egnïol, byw y byddan nhw'n siarad amdano am oes.

"Mae cerddoriaeth gospel yn newid bywyd o ran dyfnder ac ehangder ond mae'r ddealltwriaeth ohoni mor bwysig hefyd.

"Rydw i mor gyffrous eu bod yn cael cyfle i fynd i'r amgueddfa hawliau sifil ac i 16th Avenue fel eu bod yn dod i ddeall ei hanes yn hytrach na dim ond ei harddwch. Oherwydd ydi, mae'n beth prydferth ond mae hanes cyfoethog i gospel hefyd."

Ac wrth gwrs, mae perthynas yn bodoli rhwng Cymru a'r gymuned Affro Americanaidd ym Mirmingham, Alabama ers bron i chwe deg o flynyddoedd. Yn dilyn ymosodiad gan aelodau o'r Ku Klux Klan yn 1963 ar Eglwys Bedyddwyr 16th Street, daeth y Cymry at ei gilydd i gefnogi'r gymuned.

Rhoddwyd ffenest liw, y 'Wales Window' a gynlluniwyd a'i chreu gan y Cymro, John Petts, yn rhodd i'r eglwys er cof am y pedair merch a laddwyd tra yn yr ysgol Sul.

Profiad emosiynol felly, oedd cael ymweld â'r Eglwys a myfyrio o flaen y ffenestr drawiadol, yn ogystal ag ymweld â sawl tirnod pwysig arall i ddysgu ac ehangu eu dealltwriaeth am yr ymgyrchoedd hawliau sifil.

Wrth gerdded dros bont Edmund Pettus, oedd yn rhan arwyddocaol o ymdrechion Martin Luther King i arwain gorymdaith hanesyddol o Selma i Montgomery, dywedodd un o aelodau'r Côr, Catrin o'r Wyddgrug: "Ti'n dysgu am hwn yn yr ysgol, ti'n clywed am y peth a ma'n teimlo mor bell i ffwrdd, a rŵan da ni'n cerdded yn footsteps nhw.

"Ma'n taro ti, di hwn ddim yn stori, di hwn ddim yn ffilm, mae hwn yn fywyd go iawn a mha nhw'n dal i frwydro rŵan. Ma'n taro ti faint o bwysig ydi hwn."

Wrth wylio, mae pwysigrwydd ymestyn llaw o gyfeillgarwch ac undod yn eich taro hefyd.

Meddai Cadeirydd Adran Gerddoriaeth y Brifysgol, Patrick Evans: "Mae angen cerddoriaeth ar y cyd, harmoni, cyd-ganu a chyfeillgarwch yn ein byd nawr yn fwy nag erioed.

"Rwy'n gwybod bod hynny'n gwneud lles aruthrol yn y byd, ac rwy'n ei weld yn eu hwynebau - yn wynebau ein myfyrwyr ni a'n ffrindiau Cymreig.

Bu cryn dipyn o gyffro am y cyngerdd yn lleol, ac er i arweinydd Côr yr Urdd, Richard Vaughan, deimlo ychydig yn nerfus am ddod â chriw oedd heb berfformio yn gyhoeddus gyda'i gilydd, nid oedd angen poeni.

"Dyma ddechrau'r berthynas rhwng y brifysgol a'r Urdd" meddai Sian Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau.

"Maen nhw'n awchu i ddod i Gymru blwyddyn nesa, da ni'n gobeithio byddan nhw'n gallu ymuno hefo ni yn Eisteddfod yr Urdd a chael blas ar y diwylliant a chelfyddydau a phob agwedd o waith yr Urdd yng Nghymru."

"Oedd perfformid heno yn gwbl wefreiddiol. Gweld y gynulleidfa yn eu dagrau, a thalent arbennig ein pobl ifanc ni, gallwn ni mond ymfalchïo yno fo."

Wrth edrych yn ôl ar y daith, dywedodd Cai Fôn, o Fangor: "Mae 'di bod yn brofiad bythgofiadwy, dwi wedi cael modd i fyw".

Ac i Joel, o Gaerdydd, sydd wedi dechrau dysgu Cymraeg yn ddiweddar: "Mae wedi bod yn life changing, achos mae wedi gadael i mi siarad mwy o Gymraeg, a chwrdd â phobl newydd allai siarad Cymraeg gydag a mynegi ein hunain trwy gerddoriaeth, a jyst mwynhau fy hun."

Cymru, Alabama a'r Urdd - Nos Wener, 27 Mai 9.00

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?