S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Hunan Hyder: Stori un ferch yn canfod ei rhyddid ar lwyfan

24 Mehefin 2022

Mae'r gantores ac artist cerddorol o Gaerdydd, Marged yn teithio'r byd gyda band poblogaidd Self Esteem fel lleisydd a dawnswraig gefndirol.

Mae'r band, fydd yn perfformio yng ngŵyl Glastonbury dros yr Haf, yn gydnabyddedig am fwrw golau ar y profiadau heriol rheiny mae merched yn wynebu o ddydd i ddydd.

Mewn ffilm ddogfen fer onest a dirdynnol, Hunan Hyder, sydd wedi'i saethu yn ystod taith Self Esteem ym Mhrydain ac America, cawn bortread gweledol sy'n mynegi grym stori Marged hyd yma - o'i gyrfa i'w phrofiadau personol - a sut mae perfformio ar lwyfan wedi galluogi iddi brosesu ei thrawma.

"Dwi'n berson sy'n caru canu, ac yn caru bod ar y llwyfan" meddai Marged. "Capel oedd y lle nes i ddechrau dysgu sut i berfformio, sut i ddelio gyda nerfau; mynd o flaen pobl i ganu."

Does dim amheuaeth bod canu a pherfformio yn y gwaed - mae Marged yn ferch i'r canwr gwerin Delwyn Siôn, ond roedd dylanwadau'r cartref yn fwy eang na cherddoriaeth:

"O'n i wastad â dylanwad a neges yn y tŷ o'r ffaith bod ti'n ymladd am be sy'n iawn, a ti'n symud mewn cariad i neud e. Pan ti mewn adegau o dywyllwch, ti'n creu goleuni dy hunan", ychwanega.

Daeth tro ar fyd Marged yn ei hugeiniau cynnar wedi iddi ddioddef ymosodiad rhyw:

"Mae rhywbeth am fod yn rhywun sydd wedi goroesi trais a pherthynas treisgar, lle mae dewis yn gadael dy fywyd di.

"Nes i dreulio blwyddyn mewn iselder, yn yfed ac yn cymryd cyffuriau, a dwi'n teimlo nes i atynnu'r egni o'n i ynddo.

"Nes i ddiweddu mewn perthynas dreisgar o'dd 'di para bron i bum mlynedd, ac yn ystod yr amser yna nes i ddatblygu caethiwed i alcohol a chyffuriau".

Mae Marged, sydd wrthi'n gweithio ar gerddoriaeth newydd ei hun, yn cynnig golwg agored ac amrwd ar yr hyn mae merched o fewn ein cymdeithas yn profi fel canlyniad i ddiwylliant trais gwrywaidd.

"Does dim ots be ti'n gwisgo, mae beth sydd mas yna dal mynd i fod mas yna, a chyfrifoldeb nhw yw hwnna, dim fi."

Roedd ymuno â grŵp Self Esteem yn drobwynt a alluogodd i Marged ddod o hyd i'w lle yn y byd, a rhoi'r cyfle iddi ymgryfhau yn dilyn profiadau heriol:

"Ma' bod ar y llwyfan yn golygu bo' fi'n gallu ail-berchnogi fy nghorff bob nos.

"Wy'n gallu symud fy nghorff a does neb yn gallu cyffwrdd fi tra bo' fi'n neud e'. Fi'n teimlo'n hollol saff ar y llwyfan ac ma'n rhoi lle i fi am y tro cyntaf yn fy mywyd i fod yn grac. Ni sy'n dewis pryd da'n ni'n symud a pa egni ni'n rhoi mas."

Mae'r ffilm wedi'i chyfarwyddo a'i chynhyrchu gan ddwy o ffrindiau Marged - y gantores a'r bardd Casi Wyn a'r ffotograffydd a chyfarwyddwr Carys Huws.

Dyma brofiad cyntaf Carys a Casi o gydweithio i greu ffilm, a siwrnai a chryfder hynod Marged fu'r ysbrydoliaeth ar ei chyfer.

Meddai Casi: "Nid grŵp pop cyffredin mo Self Esteem; yn wahanol i ran fwyaf o artistiaid y prif-lif, dydyn nhw ddim yn trïo taenu ffug-sglein ar bethau.

"Maen nhw'n real iawn yn eu dulliau o fynegi stori. Mae'r ffilm yn peintio rhan fach o siwrne Marged tra'n canfod a siapio ei lle yn y byd.

"Gobeithio bod y ddogfen hefyd yn brawf bod grym golau a gobaith yn gallu goresgyn trawma neu brofiad tywyll.

"Mae Marged yn llwyddo i wneud hynny ar ffurf dawns a chanu fel mynegiant, ac yn dangos bod modd wynebu trais emosiynol neu gorfforol drwy dderbyn a gweithio gyda'n profiadau - yn hytrach na chuddio a chelu oddi wrthynt.

"Bydd stori Marged yn fodd o ysbrydoli eraill i siarad ac ymgryfhau hefyd."

Meddai Carys: "Mae Marged wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth i fi o ran sut mae hi'n siarad mewn ffordd mor radical o agored am themâu sydd yn aml yn cael eu fframio fel tabŵ o fewn ein cymdeithas.

"Mae gen i barch anferthol ati hi am fod yn agored i rannu ei thrawma personol er mwyn helpu goroeswyr eraill, ac er mwyn help cynrychioli'r realiti mae merched yn ei brofi heddiw."

Gwyliwch y ffilm yma:

Hunan Hyder

Ar gael i'w wylio ar Clic a Youtube

Ar sgrin nos Fercher 29 Mehefin, 10.00, S4C

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg

Ar alw: S4C Clic; BBC iPlayer a YouTube

Cynhyrchiad Kreu Media ar gyfer S4C

Os ydych chi wedi eich effeithio gan y themau yn y ffilm yma, mae cymorth ar gael yma:

https://www.s4c.cymru/cy/cymorth/page/43194/camdri...

Women's Aid

https://www.womensaid.org.uk/

Solace Women's Aid

https://www.solacewomensaid.org/

Instagram:

@marged.marged.marged

@selfesteemselfesteem

@caryshuws

@casiwyn

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?