S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi enillydd Bwrsari Darlledu Chwaraeon S4C

24 Hydref 2022

Mohammed H. Farah yw enillydd Bwrsari Chwaraeon S4C.

Gyda chefnogaeth cwmnïau cynhyrchu Jams & Mr B, Rondo Media a Media Atom, cynigwyd bwrsariaeth gwerth £9,000 gan S4C i fyfyriwr o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig lleiafrifol i astudio ar gwrs MSc Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd yn y flwyddyn academaidd 2022-2023.

Mae Mohammed, sy'n dod o Gaerdydd, yn ddysgwr Cymraeg ac mi fydd S4C yn ei gefnogi wrth iddo barhau i ddysgu'r iaith gyda Chanolfan Dysgu Cymraeg, a drwy ddefnyddio adnoddau Say Something in Welsh.

Meddai Mohammed: "Ro'n i'n gweithio fel swyddog diogelwch rhan amser yn BBC Media City yn Salford wrth astudio gradd Gwyddorau Chwaraeon, a tra yno cefais agoriad llygad am ba mor ddifyr roedd gyrfa ym myd darlledu chwaraeon yn edrych.

"Nes i gyfarfod â'r darlledwr Jason Mohammad yno, sy'n dod o Gaerdydd, fel finnau.

"Fe nes i holi ynglŷn â sut i ennill gyrfa ym myd darlledu chwaraeon ac fe soniodd am y bwrsari roedd S4C, Media Atom, Rondo Media a'i gwmni e, Jams & Mr B, yn gynnig.

"Dwi'n hynod o hapus i ennill y cyfle anhygoel yma i ddysgu am y byd darlledu chwaraeon yn yr oes ddigidol.

"Dwi'n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau cynhyrchu, fel saethu a golygu fideos fy hun, creu cynnwys digidol a recordio a chynhyrchu cynnwys radio.

"Dwi hefyd yn dysgu Cymraeg, sydd yn her, ond rwy'n benderfynol i lwyddo."

Meddai Jason Mohammad, un o sefydlwyr cwmni Jams & Mr B: "Mae Mohammed wedi dangos awch anhygoel i ddysgu a chreu llwybr i'w hun ym myd darlledu chwaraeon.

"Fe ddangosodd bod ganddo'r brwdfrydedd i weithio a hefyd diddordeb mawr yn y campau.

"Nawr, diolch i S4C a'r partneriaid, fe all Mohammed fwrw ymlaen a bod yn esiampl i'r gymuned Mwslim yng Nghymru. Gwych!"

Meddai Nia Edwards-Behi, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C: "Rydyn ni'n falch iawn i gynnig y fwrsariaeth chwaraeon i fyfyriwr brwdfrydig ac uchelgeisiol fel Mohammed.

"Nod y bwrsari yma yw cynnig cyfleoedd i Gymry o gefndiroedd gwahanol a chyfoethogi'r diwydiant darlledu yng Nghymru gyda thalent newydd.

"Hoffwn ddiolch i'n partneriaid, Jams & Mr B, Rondo Media a Media Atom am wneud y cynnig yn un mor deniadol i'r rhai sydd eisiau gyrfa ym myd darlledu chwaraeon."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?