S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Myfyrwyr Coleg Menai’n gweld ffrwyth eu llafur ar Rownd a Rownd

25 Hydref 2022

Mae myfyrwyr Coleg Menai yn cael gweld ffrwyth eu llafur yn serennu ar y sgrin fach wedi iddyn nhw gydweithio gyda chwmni Rondo, sy'n cynhyrchu'r opera sebon poblogaidd Rownd a Rownd ar ddau brosiect cyffrous yn ddiweddar.

Derbyniodd fyfyrwyr Lefel 3 Celf a Dylunio a myfyrwyr y cwrs Celfyddydau Perfformio'r coleg frîff gan y cwmni cynhyrchu i greu dyluniad newydd ar gyfer arwydd newydd fyddai'n gweithio fel murlun ar ddrws y garej yn y gyfres.

Y dasg arall oedd creu 'props' - nwyddau ar gyfer Bythol Wyrdd, siop newydd sydd wedi'i sefydlu gan ddwy o gymeriadau'r gyfres - Mali a Caitlin - yn gwerthu gwrthrychau wedi'u hailgylchu.

Mae'r gwaith yn rhan o bartneriaeth hirdymor rhwng y coleg a Rondo, sydd, drwy gweithdai, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr o weithio ochr yn ochr â phobl sy'n gweithio yn y maes darlledu.

Mae arwydd newydd sydd bellach i'w weld ar garej y gyfres yn furlun trawiadol sydd wedi cyfuno elfennau chwech o syniadau gan y myfyrwyr creadigol.

O blith y 55 o fyfyrwyr Celf a Dylunio a gydweithiodd gyda Chyfarwyddwr Celf cyfres Rownd a Rownd i greu'r nwyddau wedi'u hailgylchu ar gyfer siop Bythol Wyrdd mae Mia Condliffe a Lou Purton, sydd wedi cael agoriad llygad o wrth weithio gyda phobl broffesiynol mewn maes creadigol:

"Nes i wir fwynhau gweithio ar y prosiect hwn i Rownd a Rownd. Roedd yn hwyl cael y cyfle i wneud rhywbeth gwahanol a chyffrous.

"Roedd gweithio ar y prosiect yma hefyd wedi rhoi sgiliau celf newydd wrth weithio'n greadigol gyda gwrthrychau wnaethon ni ddod o hyd iddynt ar y traeth" meddai Mia.

Ychwanega Lou: "Roedd y profiad hwn yn wefreiddiol a diddorol, roedd yn gymaint o hwyl a phleserus gwneud y propiau hyn ar gyfer y rhaglen."

Meddai Fflur Rees Jones, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Menai: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Rondo Media am ddarparu'r cyfle ffantastig yma i'n myfyrwyr, ac rydym yn falch iawn o'r ffaith fod gwaith ein myfyrwyr yn cael ei arddangos ar Rownd a Rownd".

Ychwanegodd, "Mae'r profiad mae ein myfyrwyr wedi'i dderbyn yn sgîl hyn yn heb ei ail, ac yn sicr am fod tu hwnt o werthfawr wrth iddyn nhw wrth chwilio am waith wedi iddynt gwblhau yn y coleg.

"Mae'r bartneriaeth bwysig hon gyda Rondo Media wedi ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr ym maes teledu a ffilm, gan roi cipolwg ar fyd gwaith."

Meddai Manon Lewis, Cynhyrchydd Rownd a Rownd: "Carem achub ar y cyfle i ddiolch o galon i fyfyrwyr Coleg Menai am eu cyfraniad gwerthfawr a hynod safonol i benodau Rownd a Rownd.

"Rydym yn ymfalchïo yn y bartneriaeth sydd wedi ei sefydlu rhwng Rondo a'r coleg ac yn edrych ymlaen at gydweithio pellach i gynnig hyfforddiant a chyfleon amrywiol i'r myfyrwyr.

"Mae'n hollbwyisg i ni ddangos yr ystod swyddi a sgiliau sydd o fewn y diwydiant a rydym yn angerddol dros hyfforddiant i sicrhau dyfodol y diwydiant teledu yma yn y Gogledd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?