S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn penodi Iwan England yn Bennaeth Di-Sgript

26 Hydref 2022

Heddiw mae S4C wedi cadarnhau penodiad newydd arall i hybu'r adfywiad creadigol o fewn strategaeth gomisiynu y Sianel.

Mae Iwan England, a raddiodd yn ddiweddar o'r cynllun hyfforddi Cynllun Carlam Ffeithiol a ariennir gan y BBC, Channel 4 ac S4C, heddiw wedi'i gadarnhau yn ei swydd newydd fel Pennaeth Di-Sript.

Prif ffocws y rôl uwch gomisiynu hon fydd canolbwyntio ar ddatblygu cyd-gynyrchiadau'r Sianel, fformatau uchelgeisiol ac amrywiaeth rhyngwladol o gynnwys.

Mae Iwan yn ymuno ag S4C ar ôl dwy flynedd ar hugain yn gweithio ym maes cynhyrchu teledu, yn fwyaf diweddar fel Cynhyrchydd Gweithredol sawl pennod boblogaidd o'r gyfres 'Our Lives' ar BBC One gan gynnwys 'Searching for My Other Mam' a 'Born Deaf, Raised Hearing'.

Datblygodd, cynhyrchodd a chyfarwyddodd y ddrama ddogfen 'Aberfan, The Fight for Justice' a oedd yn gyd-gomisiwn ar BBC One, BBC Cymru ac S4C, wedi'i chyflwyno gan Huw Edwards, a oedd yn adrodd hanes y frwydr ers degawdau dros bobl Aberfan, sef y pentref lle y magwyd ef.

Mae hefyd wedi cydweithio ar sawl cynhyrchiad arall gyda Huw Edwards, yn fwyaf diweddar cyd-gynhyrchiad y Brifysgol Agored a BBC Cymru 'Wales: Who Do We Think We Are'.

Mae wedi cydweithio gyda'r digrifwr stand-yp a'r cyflwynydd Elis James ar sawl cyfres gomedi a ffeithiol a gynhyrchwyd trwy Alpha Productions, y cwmni a sefydlwyd ac sydd wedi ei redeg gan Iwan ers 2014.

Bu Elis James yn cyfweld â llu o sêr fel Rob Brydon, Ruth Jones, Rhod Gilbert a Kiri Pritchard-McLean yn rhan o gyfres BBC Two a BBC Cymru 'Funny Nation' ac fe enillodd hefyd yr aur yn y British Podcast Awards.

Dywedodd Iwan England: "Rwy'n gyffrous i fod yn ymuno ag S4C ar yr adeg arwyddocaol hon yn ei hanes wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 40 gan ddatblygu cynlluniau newydd uchelgeisiol di-sgript.

"Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â'r gymuned gynhyrchu fywiog ac adeiladu partneriaethau creadigol newydd tra'n rhoi cyfleoedd i dalent Cymreig o flaen a thu ôl i'r camera."

Dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams: "Rwy'n falch iawn o groesawu Iwan i fy nhîm comisiynu cynyddol fel llais creadigol gwerthfawr.

"Yn uchel ei barch, gydag angerdd am adrodd straeon gwych, mae ei brofiad a'i ddealltwriaeth o lunio cynnwys uchelgeisiol a deniadol yn ogystal â meithrin talent yn golygu y bydd yn sicr yn gaffaeliad enfawr o fewn y tîm wrth i ni dyfu ein harlwy di-sgript ar gyfer ein cynulleidfaoedd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?