S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ryan Reynolds a Rob McElhenney i dderbyn Gwobr Arbennig gan bobl Cymru

3 Tachwedd 2022

Bydd yr actorion Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn derbyn gwobr rhyngwladol arbennig gan bobl Cymru.

Ers prynu Clwb Pêl-droed Cymru Wrecsam AFC, mae sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi defnyddio eu statws byd-eang i hyrwyddo Cymru a'r Gymraeg.

Mae eu cyfres boblogaidd Welcome to Wrecsam yn integreiddio'r Gymraeg i adrodd stori un o glybiau pêl-droed hynaf y byd.

I gydnabod y cyfraniad enfawr y maent wedi'i wneud i roi Cymru ar lwyfan rhyngwladol, mae S4C, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r Urdd, am gyflwyno gwobr "Diolch y Ddraig" sy'n cynrychioli gwerthfawrogiad cenedlaethol a'r parch a ddangosir gan Reynolds a McElhenny at Gymru.

Cyflwynir y wobr hon fel rhan o Gyngerdd Efrog Newydd Cymru i'r Byd ar 14 Tachwedd yn Neuadd Sony, Times Sq.

Bydd y digwyddiad hwn, fydd yn llawn enwogion a sêr, yn arddangos y gorau oll o dalent, diwylliant ac iaith Cymru a bydd yn cael ei ddarlledu ar S4C ar yr 20fed o Dachwedd, y noson cyn gêm bêl-droed gyntaf Cymru V UDA Cwpan y Byd yn Qatar.

Syr Bryn Terfel OBE fydd yn arwain y dathliadau, ochr yn ochr â llu o artistiaid cyfoes Cymreig wrth ddathlu'r gorau o Gymru cyn y gêm yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Mae CBDC yn falch iawn o weld Rob a Ryan yn cael eu cydnabod am eu rôl arbennig i bêl-droed yng Nghymru ac am roi Cymru ar lwyfan y byd.

"Rydym yn byw mewn cyfnod cyffrous gyda sefydliadau a phobl angerddol yn cydweithio i adeiladu momentwm y tu ôl i hyrwyddo ein diwylliant, ein hanes, a'n hiaith.

"Mae Cymru yn wlad arbennig ac mae pêl-droed yn chwarae rhan flaenllaw wrth ddod â Chymru i'r byd.

"Gyda Rob a Ryan yn arwain Wrecsam, a Chymru yn anelu am Gwpan y Byd, edrychwn ymlaen at ddathlu'r gydnabyddiaeth hon gyda'n ffrindiau yn S4C."

Meddai Sian Doyle, Prif Weithredwr, S4C : "Mae S4C yn falch iawn o gydnabod y cyfraniad y mae Rob a Ryan wedi'i wneud drwy ysbrydoli cenhedlaeth gyfan i ddathlu a chofleidio Cymru i'r Byd.

"Mae eu hangerdd dros Wrecsam, gan gynnwys dysgu Cymraeg, wedi taflu goleuni ar bêl-droed Cymru wrth i ni anelu at Gwpan y Byd.

"Efallai fod Cymru'n fach, ond rydyn ni'n angerddol ac yn falch o'n hiaith a'n diwylliant. Fel prif ddarlledwr Cymru, mae'n anrhydedd i ni gydnabod eu cyfraniad trwy ddweud Diolch yn ein cyngerdd arbennig.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?