S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Drama trosedd Dal y Mellt wedi ei werthu i Netflix

19 Ionawr 2023

Mae Abacus Media Rights wedi gwerthu drama trosedd S4C, Dal y Mellt (Rough Cut) 6x60 i Netflix. Hon fydd y ddrama uniaith Gymraeg gyntaf i gael ei drwyddedu ar Netflix a bydd yn cael ei ddarlledu ar Netflix o Ebrill 2023.

Cafodd Dal y Mellt ei ryddhau fel bocs set ym mis Hydref y llynedd ar S4C Clic a BBC iPlayer. Cafodd y gyfres ei chanmol yn eang ac roedd yn lwyddiant ysgubol i'r darlledwr Cymraeg.

Mae'r ddrama, a gynhyrchwyd gan Vox Pictures, yn addasiad o nofel gyntaf Iwan 'Iwcs' Roberts o'r un enw.

Ysgrifennodd Iwan 'Iwcs' Roberts y sgript deledu hefyd a chyd-gynhyrchodd y ddrama gyda Llŷr Morus. Cyfarwyddwyd y gyfres gan Huw Chiswell.

Mae Dal y Mellt yn dilyn trafferthion y prif gymeriad Carbo wrth iddo gael ei dynnu i fyd o ddrygioni, celwyddau, cyfrinachau a thor-calon. Mae'r gyfres yn cychwyn ar strydoedd cefn a thywyll Caerdydd ac yna'n symud yn ôl ac ymlaen rhwng Caerdydd, Soho, Porthmadog a Chaergybi.

Mae'r cast yn cynnwys Mark Lewis Jones fel Mici Ffin, bos y garej, Gwïon Morris Jones sy'n chwarae'r prif gymeriad, Graham Land yn chwarae rhan Les gyda Siw Hughes yn chwarae ei fam, Meri-Jên. Dyfan Roberts sy'n chwarae rhan Gronw, gyda Lois Meleri-Jones yn chwarae ei ferch Antonia ac Owen Arwyn fel ei fab Dafydd Aldo. Ali Yassine sy'n portreadu Cidw.

Meddai Siân Doyle Prif Weithredwr S4C: "Dyma newyddion gwych i ddrama yn yr iaith Gymraeg. Mae poblogrwydd dramâu rhyngwladol ar Netflix yn fyd-eang yn profi'r awydd am ddrama gyffrous o safon beth bynnag yw'r iaith. Mae Dal y Mellt (Rough Cut) yn dyst i safon y dalent sy'n cynhyrchu drama yng Nghymru.

"Mae gwerthu cyfres uniaith Gymraeg i ffrydiwr byd-eang mawr fel Netflix yn gosod ein huchelgais i fynd a thalent a a'r iaith Gymraeg i'r byd ac yn creu cyfleoedd cyffrous pellach i S4C.

"Mae ein dramâu Cymraeg yn sefyll ochr yn ochr â rhai gweddill y byd. Mae gan S4C hanes hir o werthu dramâu sydd yn gyd-gynyrchiadau - Y Gwyll (Hinterland), Un Bore Mercher (Keeping Faith) ac Y Golau (Light in the Hall). Maen nhw i gyd yn gynyrchiadau dwyieithog (Saesneg/Cymraeg) gefn wrth gefn sy'n gwerthu i ddarlledwyr a phlatfformau ffrydio rhyngwladol."

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?