S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enillwyr ysgoloriaeth a bwrsariaethau drama S4C yn cael eu cyhoeddi

6 Chwefror 2023

Mae tair actores ifanc Cymraeg ei hiaith wedi derbyn cefnogaeth gan S4C fel rhan o waith parhaol y sianel i hyrwyddo amrywiaeth a chynrychiolaeth o fewn y diwydiant creadigol yng Nghymru mewn partneriaeth a'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Enillodd Lauren Morais, myfyrwraig actio israddedig o Gaerdydd yr Ysgoloriaeth Amrywiaeth, ac enillodd Angharad Evans Quek o Abertawe'r fwrsariaeth ar gyfer myfyriwr ar y rhaglen Stiwdio Actorion Ifanc, sy'n darparu hyfforddiant i actorion a dosbarthiadau theatr i bobl ifanc rhwng saith ac 20 oed.

Mae Lauren ar fin ymddangos ym mherfformiadau'r Coleg o 'Love Steals Us From Loneliness' gan y dramodydd Cymreig Gary Owen Chwefror 10,11,13,14 a 15.

Meddai Lauren: "Dwi'n mor ddiolchgar i dderbyn yr ysgoloriaeth. Fe fydd o gymorth mawr i fi pan dwi'n dechrau ar fy ngyrfa tu allan i'r CBCDC. Rydw i'n gyffrous iawn gyda beth sydd o flaen fi yn y dyfodol a'r cyfleoedd mae'r Coleg wedi ei greu i fi. Diolch o galon."

Meddai Angharad: "Roedd hi'n fraint a syrpreis braf iawn i glywed bod y CBCDC wedi fy enwebi i ar gyfer gwobr S4C. Hoffwn ddiolch iddynt am yr holl gefnogaeth dwi wedi derbyn trwy'r Stiwdio Actorion Ifanc. Mae'r cyfle i brofi cysylltiadau yn y diwylliant ac arweinyddiaeth oddi wrth bobl broffesiynol wedi bod yn anghredadwy. Mae'r wobr hon gan S4C wedi rhoi hwb i fy hyder a fy nghymhelliant i gyrraedd fy ngolau ac i bob tro anelu at ragoriaeth."

Darparodd S4C arian tuag at fwrsariaeth arall hefyd fel rhan o'r rhaglen fuddsoddi CultureStep Arts&Business Cymru. Caniataodd y cyllid hwn i'r Coleg creu ysgoloriaeth ar gyfer myfyrwyr actio sy'n siarad Cymraeg a Kellie-Gwen Morgan o Landeilo sydd wedi derbyn y fwrsariaeth hon.

Meddai Kellie-Gwen said: "Rwy'n mor ddiolchgar i S4C ac i Arts&Business Cymru am yr ysgoloriaeth. Fydd hi'n rhoi cefnogaeth i fi drwy leihau'r gost, sy'n fy ngalluogi fi i ffocysu'n gyfan gwbl ar yr hyfforddiant. Fel Cymraes falch, mae astudio a hyfforddi yn y CBCDC yn fraint a gyda chymorth yr ysgoloriaeth hon, rwy'n gyffrous iawn i allu ehangu fy sgiliau yn y tair blynedd nesaf a thu hwnt."

Meddai Bennaeth Di-Sgript S4C Gwenllian Gravelle: "Dyma'r tro cyntaf i S4C a'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gweithio ar y cyd fel hyn a dwi wrth fy modd bod Lauren, Angharad a Kellie-Gwen wedi buddio o'r bwrsariaid.

"Nod yr ysgoloriaeth a'r fwrsariaeth yw cefnogi siaradwyr Cymraeg sydd yn efallai wynebu rhwystrau oherwydd eu cefndiroedd ethnig neu hil, anabledd neu gefndir economaidd-gymdeithasol dan anfantais sylweddol i wella amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y celfyddydau perfformio Cymraeg eu hiaith.

"Mae'n rhan o nod S4C i sefydlu llwybr clir a darparu cefnogaeth fel y bod y sector yn adlewyrchu Cymru heddiw - ar y sgrin ac oddi ar y sgrin."

Dywedodd Pennaeth y CBCDC yr Athro Helena Gaunt: "Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr â nodweddion gwarchodedig ac i'r rhai sydd mewn angen ariannol yn ein helpu i ddod yn fath gwahanol o conservatorie - un sy'n fwy croesawgar, perthnasol, amrywiol a hygyrch.

"Mae gwobrau fel ysgoloriaeth newydd S4C yn ein helpu i ddenu a meithrin talent artistig a darparu cyfleoedd i'r rhai sy'n eithriadol o ddawnus, beth bynnag fo'u hamgylchiadau ariannol. Rydym mor ddiolchgar i fod yn bartner gyda S4C i ddatblygu a thyfu'r gwaith pwysig hwn ac i ddyfnhau cynrychiolaeth a chynhwysiant yn y diwydiannau creadigol."

Mae'r bartneriaeth rhwng S4C a'r CBCDC wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Busnes ac Amrywiaeth Arts&Business Cymru. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 23 Mawrth.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?